Mae Gwylan UK wedi datblygu Sleeping Lions, ap sy’n ceisio helpu plant i reoli a rheoleiddio eu hiechyd meddwl a chorfforol.

Mae ap Gwylan yn tywys plentyn sy’n cael ei lethu’n emosiynol drwy gyfres o gemau, ymarferion a thechnegau trochi sydd wedi’u dylunio i arafu eu cyfradd anadlu, gan eu galluogi i dawelu heb orfod gadael yr ystafell ddosbarth. Mae hyn yn helpu i wella llesiant y plentyn hwnnw, yn lleihau faint o addysg mae’n ei cholli, ac yn galluogi ysgolion i gefnogi mwy o’u disgyblion yn emosiynol.

Rhoddodd Cyflymu, rhaglen sydd bellach wedi cau dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yr arbenigedd academaidd a’r cyfleusterau diweddaraf a oedd yn y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC).

Dywedodd John Likeman, Cyfarwyddwr Gwylan UK:

“Mae’r rhaglen Cyflymu wedi bod yn hollbwysig o ran ein cefnogi ni. Maen nhw wedi dod o hyd i ATiC ac wedi gallu rhoi tîm o bobl i ni a oedd yn gallu deall beth roedden ni ei eisiau a’n helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gyflawni hynny. Heb Cyflymu, ni fyddai unrhyw gynnyrch, mae mor syml â hynny, byddai’n dal yn syniad.”