Mae Anturiaethau Organig Cwm Cynon yn cynnig gwasanaeth addysg amgen lle gall meddygon, Byrddau Iechyd ac elusennau gyfeirio cleifion at driniaeth amgen o gymorth llesiant mewn amgylchedd gwyrdd. Mae’r prosiect hwn, sydd yn Rhondda Cynon Taf, yn adeiladu ar y cysylltiadau sy’n bodoli eisoes rhwng meddygon teulu lleol, cydlynwyr llesiant ac Anturiaethau Organig Cwm Cynon, gan greu cyfleoedd newydd i ymgysylltu â natur.
Mae Presgripsiynau Gwyrdd yn gweithio drwy alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gyfeirio pobl at weithgareddau natur – fel garddio neu weithgareddau awyr agored – gan ddod â manteision meddyliol a chorfforol.
Dywedodd Janis Werrett, Cyfarwyddwr Anturiaethau Organig Cwm Cynon:
“Bydd y prosiect yn rhoi cyfleoedd i bobl leol wella eu llesiant, a bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu man cymunedol rhyfeddol a fydd yn galluogi dysgu ac yn fan gwyrdd hygyrch am flynyddoedd i ddod.”
Cefnogwyd y prosiect hwn gan Cyflymu, rhaglen sydd bellach wedi cau dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.