Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae'r prosiect QuicDNA yn fenter drawsnewidiol sy’n digwydd mewn chwe Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Mae’r dechnoleg yn darparu ffordd gyflymach a llai ymwthiol o gasglu gwybodaeth allweddol drwy gynnwys biopsïau hylif mewn asesiadau canser yr ysgyfaint.

Mary, QuicDNA patient

Mae biopsïau hylif yn archwilio DNA tiwmor sy’n cylchredeg mewn sampl gwaed. Mae hyn yn cynorthwyo meddygon i roi diagnosis ac yn galluogi’r claf i ddechrau'r driniaeth yn gynt. Yn y pen draw, prif amcan QuicDNA yw gwella canlyniadau ar gyfer pobl sydd â chanser yr ysgyfaint.

Yn yr astudiaeth achos byddwn ni’n rhannu stori bersonol Mary Simpson gan dynnu sylw at y ffordd y mae’r fenter arloesol hon wedi cyflymu’r broses o dderbyn diagnosis a dylanwadu ar ei thriniaeth, gan drawsnewid ei phrofiad hi o ofal. 

Taith Mary tuag at dderbyn diagnosis

Roedd Mary Simpson, hen-nain sy’n mwynhau cerdded a bod yn yr awyr agored, yn edrych ymlaen at gael ail-afael yn ei bywyd egnïol ar ôl iddi gael ail ben-glin newydd yn 2023. Ond, erbyn gwanwyn 2024, roedd hi wedi dechrau cael poen barhaus yn ei choes, ac ar y pryd roedd hi’n meddwl mai nerf wedi cloi oedd y broblem.

Dywedodd Mary wrth edrych yn ôl ar y cyfnod: “Ro’n i’n edrych ymlaen at gael cerdded rhyw fymryn eto Ond dechreuais gael poen yn fy nghoes, a dyna ddechrau ar yr holl broblemau.”

Cafodd Mary ei hanfon am sgan CT ar ôl i brawf gwaed arferol ddangos bod lefelau B12 uchel iawn yn y gwaed.  A hithau ar ei gwyliau yng Nghernyw, derbyniodd Mary alwad ffôn a newidiodd ei bywyd.

“Ges i alwad ffôn am 9 fore dydd Llun, ac ro’n i’n gwybod yn syth bod rhywbeth o’i le gan fod y feddygfa yn fy ffonio i mor gynnar,” meddai Mary.

Trefnwyd y byddai'r meddyg teulu yn ei ffonio, a dyna pryd y cafodd hi wybod fod y sgan wedi dangos smotyn bach ar ei hysgyfaint chwith.  Y diwrnod ar ôl iddi ddychwelyd o Gernyw, roedd gan Mary apwyntiad i gael Sgan MRI.

Derbyniodd Mary ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint a chanser eilaidd yr esgyrn, a hynny dridiau cyn ei phen-blwydd yn 80.

Er bod Mary yn canmol ei thîm gofal iechyd, mae hi’n cyfaddef bod derbyn y newyddion wedi bod yn sioc iddi hi a’i theulu. 

“Roedd fy merch i gyda ni pan gefais i wybod, ac roedd y teulu cyfan wedi dychryn.”   

Sut wnaeth QuicDNA drawsnewid gofal Mary

Y camau nesaf i Mary oedd cymryd rhan mewn ymgynghoriadau gofal anadlol a chael mwy o brofion. Un o’r profion hyn oedd prawf gwaed biopsi hylif a oedd yn rhan o brosiect canser yr ysgyfaint QuicDNA.

Fe wnaeth y prawf arloesol hwn gwtogi’r amser y bu’n rhaid i Mary ei ddisgwyl cyn cael triniaeth, yn ogystal â rhoi gwybodaeth allweddol i’w thîm clinigol wythnosau cyn y byddai dulliau traddodiadol wedi gallu darparu'r un wybodaeth. Cafodd Mary ddechrau ar ei thriniaeth canser yr ysgyfaint ym mis Medi 2024, fis cyfan cyn y byddai hi wedi derbyn canlyniadau’r biopsi meinwe nad oedd ar gael nes fis Hydref.

Dywedodd Dr Paul Shaw, Meddyg Ymgynghorol ym maes Oncoleg Glinigol yng Ngwasanaeth Canser Felindre, wrth dynnu sylw at effaith emosiynol a chlinigol gorfod aros am ganlyniadau a thriniaeth:

“Mae achos Mary yn dangos potensial trawsnewidiol archwiliad ctDNA. Allaf i ddim pwysleisio maint yr effaith seicolegol y mae aros am ganlyniadau diagnosteg yn gallu ei chael ar glaf. Heb ctDNA, mae cleifion a’u teuluoedd yn gorfod aros am ganlyniadau am wythnosau, a hynny mewn cyfnod anodd iawn iddynt. Nid yw’n syndod bod hynny’n gwneud iddynt boeni.”

Fe wnaeth hyn alluogi Mary i dderbyn gofal gan y tîm Oncoleg yn gynt, ac mae ei hachos yn atgyfnerthu gwerth biopsïau hylif ym maes diagnosteg a thriniaeth canser yr ysgyfaint.

Canlyniadau cadarnhaol a’r camau nesaf

Roedd Mary’n teimlo’n well bron yn syth ar ôl iddi ddechrau derbyn triniaeth. Diflannodd y boen yn ei choes oedd yn effeithio ar ei bywyd bob dydd.  Profodd hi ychydig o sgil effeithiau, ond fe wnaethant leddfu ar ôl gwneud newidiadau i’w meddyginiaeth.

Cafodd Mary ganlyniadau sgan calonogol ym mis Ionawr 2025. 

“Mae’r tiwmor ar fy ysgyfaint wedi mynd yn llai, ac o beth dwi’n ei ddeall nid yw'r canser sydd wedi ymledu i fy esgyrn wedi gwaethygu. Dwi’n meddwl fy mod i’n dal mewn sioc, mae cael newyddion fel hyn yn taflu rhywun.”

Mae Mary yn cael sgan bob tri mis ac yn obeithiol iawn. Dywedodd hi:

“Mae’n rhaid i ti fod yn obeithiol. Dwi’n berson eithaf athronyddol a dwi’n cymryd un dydd ar y tro, dyna’r unig beth y gallaf i ei wneud.”

Gwybodaeth am QuicDNA a biopsïau

Mae’r prosiect QuicDNA yn arwain y ffordd at ofal canser cyflymach a mwy effeithiol drwy ddulliau profi arloesol. Mae biopsïau hylif yn darparu opsiwn amgen sy’n llai ymwthiol na diagnosteg draddodiadol, ac yn galluogi cleifion i dderbyn triniaeth yn gynt a chael canlyniadau gwell.

Gallwch ddysgu rhagor am y prosiect yma.