Hidlyddion
date
Argraffiadau o Med-Tech World 2023
|

Profodd Uwchgynhadledd Med-Tech World 2023 i fod yn gynulliad anhygoel o 1,500 o fynychwyr, o 50 o wledydd gyda dros 200 o siaradwyr arbenigol. Arweinydd y rhaglen, Delyth James sy’n rhannu rhai argraffiadau a’r hyn a ddysgwyd o Uwchgynhadledd Med-Tech World ym Malta ym mis Hydref.

Fideo yn rhan o'r cynnwys
Data Mawr, Effaith Enfawr: Tri Pheth i Gofio o Ddigwyddiad Data Mawr 2023
|

Roedd ein Digwyddiad Data Mawr, a ddarparwyd mewn partneriaeth ag Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, Yr Adnodd Data Cenedlaethol a Grŵp Dadansoddeg Uwch Cymru, yn gyfle gwych i glywed tystiolaeth bwerus o integreiddio data yn trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol, cyngor ymarferol ar ddefnyddio data yn ein gwaith bob dydd, ac ysbrydoliaeth ar sut i feddwl yn wahanol am ddata.

Pan gyfarfu Iwerddon â Chymru: diwrnod ym mywyd ein hecosystem ddigidol
|

Mae hi’n amser cyffrous i fod yn gweithio ar arloesedd digidol yng Nghymru, pan rydyn ni’n ymgysylltu ag ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant, y llywodraeth a’r byd academaidd. Awyddus i gael gwybod sut beth yw hyn? Mae ein blog diweddaraf yn rhoi mewnbwn ar gyfarfod diweddar a gynhaliwyd i gryfhau’r cysylltiadau rhwng arloeswyr yng Nghymru ac Iwerddon.

Beth yw openEHR a pham ei fod yn bwysig?
|

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi bod yn cynnal gwerthusiad technegol ar openEHR er mwyn profi ei hyfywedd fel storfa ddata clinigol strwythuredig. Bydd y dechnoleg yn cael ei chyflwyno cyn bo hir er mwyn cefnogi prosiectau cenedlaethol megis Cyflymu Canser a chynnig cofnod meddyginiaethau a rennir ar gyfer GIG Cymru.

Banc Data SAIL: ymchwil data iechyd yn ystod pandemig byd-eang
|

Gyda dyfodiad COVID-19 yng Nghymru, daeth ansicrwydd i bob rhan o’r gymdeithas. Daeth cwestiynau i’r wyneb yn gyflym; sut a lle’r oedd y feirws yn lledaenu? Pa effaith fyddai’n ei gael ar iechyd cyhoeddus? Sut fyddai ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ymdrin â’r pwysau ychwanegol? A pha effeithiau tymor byr a hirdymor fydd y pandemig yn ei gael ar ein hiechyd a’n ffordd o fyw?

Myfyrdodau ar Ymgynghoriadau Fideo yng nghyfnod y CV
|

Mae Allan Wardhaugh yn Ddwysegydd Pediatreg a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol (CCIO) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac yn arweinydd clinigol (gofal eilaidd) ar gyfer y Rhaglen Ymgynghoriadau Fideo Genedlaethol.

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Allan ar gyfer Cydffederasiwn y GIG.

Meithrin eich Rebel Mewnol
|

Yn wir, mae argyfwng y coronafeirws wedi amlygu’r gwahaniaethau rhwng y rhai sy’n cymryd risgiau a’r rhai sy’n amharod i gymryd risgiau, gan ddangos pwy ohonom sy’n dilyn y rheolau i gyd yn ochelgar a phwy sy’n eu trin nhw fel awgrymiadau cwrtais, i’w hanwybyddu fel y mynnwn.  Yn y postiad blog hwn, ceisiaf adfer enw da’r rhai sy’n cymryd risgiau a rhannu fy ngobaith y bydd Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn annog y rhai sy’n cymryd risgiau a’r rhai sy’n amharod i gymryd risgiau weithio gyda’i gilydd mewn cytgord.

Gadewch i ni wneud PROMs gyda'n gilydd!
|

Os ydych chi erioed wedi cael triniaeth neu weithdrefn ddifrifol, efallai y gofynnwyd ichi lenwi holiadur a graddio'ch adferiad ar ôl y ffaith. Gelwir yr holiaduron hyn yn Fesurau Canlyniadau a Gofnodwyd gan Gleifion (PROMs) ac maent yn dod mewn gwahanol siapiau a meintiau.