Rydyn ni newydd gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 – mae hwn bob amser yn gyfle i oedi ac edrych yn ôl ar ein llwyddiannau. Yn fy achos i, mae hynny’n cynnwys oedi’n hirach i edrych yn ôl ar fy amser gyda’r sefydliad gwych hwn. Dyma fy myfyrdodau a’r pum peth y gwnes i eu mwynhau fwyaf y llynedd.
Mae bod yn aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru dros y saith mlynedd diwethaf wedi bod yn un o’r pethau rwy’n fwyaf balch o fod wedi eu gwneud erioed, ac mae hynny’n dal yn wir. Bob dydd, mae’r sefydliad yn helpu ac yn cefnogi cleifion a dinasyddion yng Nghymru, a’i nod yn y pen draw yw llwyddo i gael triniaethau a chanlyniadau gwell. Does dim byd mwy pwerus na bod yn rhan o sefydliad sy’n gallu cael yr effaith honno o ddydd i ddydd.
Rwy’n arbennig o falch o ysgrifennu hyn ychydig fisoedd yn unig ar ôl cael fy ailbenodi’n Gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Wrth i mi ddechrau fy mhedwaredd flwyddyn fel Cadeirydd, allwn i ddim bod yn fwy balch o’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud tuag at ein gweledigaeth o wneud Cymru’n wlad y mae pobl yn dewis dod iddi er mwyn arloesi ym maes iechyd, gofal a lles.
Yn 2023/24, fe wnaethom barhau i weithio gyda phartneriaid arloesol i ddod o hyd i atebion ar gyfer heriau iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, gan feithrin iechyd a ffyniant yng Nghymru. Dyma’r pum peth y gwnes i eu hoffi fwyaf yn 2023/24:
1 - Mynd i’r Afael â Chanser
Un o brif gryfderau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw ein gallu i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd i ddatrys heriau. Mae gweithio gyda’n gilydd i sicrhau gwelliannau i gleifion yng Nghymru wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ein dull gweithredu ac mae'r ysbryd cydweithredol hwnnw wedi dod yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon.
Mae hyn yn cael ei ddangos, gymaint ag unrhyw le, yn swyddogaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i dynnu ynghyd Fforwm Diwydiant Canser Cymru a sbarduno ei phwrpas. Yn 2023-24, cyrhaeddwyd penllanw dwy flynedd o gynnydd wrth ddod â charfan eang at ei gilydd – o bob rhan o’r maes gwyddorau bywyd a chynhyrchion fferyllol – gyda lansiad rhaglen Trechu Canser Llywodraeth Cymru.
Mae’r Fforwm wedi arwain nifer o brosiectau llwyddiannus i wella diagnosis o ganser mewn rhanbarthau ledled Cymru. Nawr, bydd ein gwaith yn codi i gêr arall, wrth i ni ehangu ar hyn a symud tuag at gefnogi mentrau Cymru gyfan y rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser.
2 - Grŵp Diddordeb Arbennig Deallusrwydd Artiffisial
Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru swyddogaeth hollbwysig o ran cefnogi systemau iechyd a gofal cymdeithasol mwy effeithlon a chynhyrchiol. Mae deallusrwydd artiffisial a digidol (AI) yn flaenoriaeth allweddol, gan fod y technolegau hyn yn cynnig posibiliadau enfawr i sefydliadau iechyd a gofal gyflawni arbedion effeithlonrwydd a symleiddio gwasanaethau.
Roedd ein Grŵp Diddordeb Arbennig Deallusrwydd Artiffisial yn fforwm pwysig i bobl ddod at ei gilydd i gydweithio a rhannu arloesedd ym maes deallusrwydd artiffisial, gan helpu i gyflymu ein gallu i wireddu manteision y dechnoleg newydd hon er budd cleifion. Wrth i ni barhau â’n gwaith yn 2024/25, mae ein cefnogaeth i Gomisiwn Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth Cymru yn cwblhau’r darlun, ac yn rhoi lle blaenllaw i reoleiddio deallusrwydd artiffisial mewn lleoliadau gofal iechyd.
3 - Cefnogi gwasanaethau presgripsiynau electronig
Ar lefel bersonol, uchafbwynt 2023/24 oedd y swyddogaeth mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi’i chyflawni o ran gweinyddu Cronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned (CPSIF), ar ran GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’r Gronfa Arloesi’n cefnogi cyflenwyr i ddatblygu gwasanaethau presgripsiynau electronig, yn ogystal ag arloesi tuag at brosesau fferylliaeth di-bapur ac integreiddio ag Ap GIG Cymru.
Mae fferylliaeth yn faes sy’n agos at fy nghalon. Rwy’n gyn-fferyllydd cymunedol, ac mae fy ngwraig a fy merch hefyd yn fferyllwyr. Fel teulu, mae’r GIG – a gwasanaethau fferylliaeth yn benodol – wedi bod yn ganolbwynt pwysig i’n bywydau.
Felly, roedd cyflwyno gwasanaethau presgripsiwn electronig ledled Cymru yn ddigwyddiad i lawenhau ynddo i mi. Rwy’n gwybod gystal ag unrhyw un y bydd y cynnydd hwn yn gwneud presgripsiynu’n fwy diogel ac effeithlon i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion.
4 - Gwybodaeth am y sector a chymorth ariannol
Gwn o’m profiad personol o eistedd fel cadeirydd bwrdd iechyd, pa mor anodd yw cael gafael ar rywun sydd ag arbenigedd mewn ffrydiau cyllido ac ysgrifennu ceisiadau am gyllid. Felly rwy’n falch iawn ein bod wedi datblygu adnodd ar gyfer arloeswyr ar draws meysydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ymchwil a busnes i fanteisio ar gyllid grant cydweithredol. Mae ein tîm cymorth ariannol yn sefydlu ei hun fel llwybr hanfodol ar gyfer cyfeirio at ffrydiau cyllido, cysylltu â phartneriaid a datblygu cynigion a chynlluniau.
Ar ben hynny, mae ein tîm gwybodaeth am y sector yn datblygu i fod yn adnodd dibynadwy yng Nghymru ar gyfer ymchwil ac arweiniad ar ein cyd-destun arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r wybodaeth hon wedi helpu Llywodraeth Cymru i lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau, ac mae amrywiaeth eang o bartneriaid a darparwyr hefyd wedi elwa ar y wybodaeth fanwl y gallwn ei rhannu.
5 - Eirioli ar ran Gymru
Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru swyddogaeth bwysig o eirioli ar ran Cymru. Mae gwyddorau bywyd yn amgylchedd cystadleuol ac yn faes o dwf enfawr i Gymru, y DU ac – yn wir – y byd i gyd.
Gall diwydiant gwyddorau bywyd cryf gynnig mwy i Gymru na dim ond manteision iechyd i gleifion. Mae’r datblygiad economaidd y mae gwyddorau bywyd eisoes yn ei gyfrannu o fudd enfawr i lawer o ranbarthau, a gallai arwain at lawer mwy o enillion.
Ac mae Cymru’n lle gwych i fusnesau gwyddorau bywyd. Mae gennym hanes cryf o sefydlu busnesau newydd, cryfderau mawr ym maes ymchwil ac arloesi, gweithlu medrus iawn, ac rydyn ni’n datblygu seilwaith cryf, gan gynnwys parciau gwyddoniaeth sy'n arwain y byd. Mae hefyd yn lle gwych i fyw ynddo, wrth gwrs.
Yn 2023/24, fe wnaethom gyfleu’r neges hon yn uwch nag erioed. Un o’r ffyrdd y gwnaethom hyn oedd gyda’n Cyfeiriadur Arloesi newydd, sy’n arddangos yr amrywiaeth eang o sefydliadau yn ecosystem arloesi fywiog Cymru. Mae’r cyfeiriadur hwn, sy’n dal i gynyddu, eisoes yn cynnwys cannoedd o sefydliadau ac mae’n ffordd bwysig i ni hwyluso cydweithio, yn ogystal â rhoi sylw i lwyddiannau ym mhob cwr o Gymru.
Rwy’n Gymro brwd ac rwy’n falch o fod yn ychwanegu fy llais at yr ymdrech honno, drwy barhau i dynnu sylw at bopeth sydd gan Gymru i’w gynnig.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 ar gael nawr. Darllenwch am yr effaith a gawsom y llynedd a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.