Mae’r Pwyllgor hwn yn cynghori’r Bwrdd ar dâl a thelerau gwasanaeth i weithwyr o fewn y fframwaith a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ynghylch y trefniadau ar gyfer tâl a thelerau gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau contract ar gyfer pob gweithiwr, a pholisïau adnoddau dynol, yn unol â gofynion a safonau. Mae hefyd yn monitro trefniadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a datblygu diwylliant sefydliadol.
Cylch Gorchwyl
- Lawrlwythwch Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Thaliadau.
Cyfarfodydd
- Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac fel arall fel y gwêl Cadeirydd y Pwyllgor yn angenrheidiol.
Pwy sy'n bresennol
Mae’r canlynol yn bresennol yn y Pwyllgor:
- Prif Weithredwr
- Cyfarwyddwr Gweithrediadau ayb.
- Pennaeth Llywodraethu, Risg a Chydymffurfiaeth