Partneriaid rhwng partneriaid Cyflymu ac athletwr o Gymru i astudio buddion posib cynhyrchion ar sail cbd i iechyd, lles ac wrth drin clefydau
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) yn awgrymu bod defnyddio cynhyrchion CBD yn cynnig buddion iechyd cryf.
Bu’r Ganolfan, a arweinir gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn cydweithredu â chwmni o Abertawe, Hemp Heros, sy'n gweithgynhyrchu canabidiol sbectrwm llawn - sy'n cael ei adnabod yn well fel CBD - a chynhyrchion cywarch ar gyfer yr astudiaeth ymchwil.
Sefydlwyd y cwmni gan y seren celf ymladd cymysg o Gymru, John Phillips, a'i nod yw gwella bywydau ei gwsmeriaid, gan ddefnyddio dulliau naturiol.
Mae ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn awgrymu y gall cynhyrchion cywarch gael effaith fuddiol ar iechyd pobl, ond nid oes llawer o dystiolaeth ar gyfer CBD. Bellach, mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd wedi llwyddo i gynhyrchu data clinigol sy'n profi buddion y cynnyrch ar gyfer iechyd a lles.
Mae'r adroddiad yn darparu adolygiad o'r canabis meddygol sydd wedi'i gymeradwyo i leddfu symptomau sy'n gysylltiedig â mathau difrifol o epilepsi, sgîl effeithiau cemotherapi, megis cyfog a chwydu, ac i leddfu anystwythder a gwingiadau'r cyhyrau ymhlith cleifion â sglerosis ymledol (MS).
Bu'r tîm hefyd yn archwilio effeithiau cynhyrchion CBD ar straen, gorbryder a chwsg, ac effeithiau rôl CBD yn yr agweddau hyn ar ansawdd bywyd ac wrth atal a thrin anhwylderau a chlefydau'r system nerfol ganolog - megis clefyd Alzheimer a Parkinson.
Mae'r astudiaeth gychwynnol hon yn paratoi'r ffordd ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol mewn pedwar prif faes: poen, cwsg, gorbryder ac adsefydlu.
Meddai Dr Daniel Rees o'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, Cyd-arweinydd y Prosiect:
"Mae'r cydweithrediad ymchwil hwn yn cynrychioli sylfeini perthynas â chwmni yn Abertawe sy'n datblygu, yn gweithgynhyrchu ac yn cyflenwi cynhyrchion i bobl ledled y byd.
"Mae Hemp Heros yn gwmni cyffrous a dynamig sy'n buddsoddi yn ei ddyfodol drwy ymchwil, datblygu ac arloesi dan arweiniad y brifysgol i sicrhau bod y cynhyrchion yn gydnaws â'i honiadau iechyd."
Hyd yn hyn, mae meddyginiaethau ar sail CBD wedi'u cymeradwyo yn y DU i leddfu symptomau sy'n gysylltiedig â nifer o glefydau cymhleth. Ni fydd y GIG yn darparu presgripsiynau ar gyfer cynhyrchion ar sail CBD oni bai nad oes triniaeth addas arall ar gael neu le mae'r dewisiadau amgen yn aneffeithiol o hyd.
Mae llawer o'r brandiau CBD presennol yn hyrwyddo effeithiolrwydd eu cynhyrchion heb unrhyw dystiolaeth ategol. Mae tîm Hemp Heros-Prifysgol Abertawe'n cydweithredu drwy astudiaethau academaidd trylwyr i archwilio data, gwybodaeth ac ysgolheictod er mwyn tanategu cynhyrchion presennol y cwmni a'r rhai sy'n datblygu.
Mae'r astudiaeth hefyd yn darparu tystiolaeth i ategu defnyddio'r cynnyrch i wella iechyd a lles anifeiliaid anwes - maes pwysig, oherwydd cyfrifwyd bod y farchnad cynnyrch anifeiliaid anwes yn werth $27.7 miliwn yn 2019, a disgwylir iddi gynyddu dros 40 y cant yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Meddai John Phillips, cyd-sefydlydd Hemp Heros ac ymladdwr UFC proffesiynol:
"Roedd fy nghi, Alfie, wedi dioddef o arthritis ers blynyddoedd ac roedd ar fin cael ei roi i gysgu, nes i mi ei drin gyda chynhyrchion CBD Hemp Heros. Gwnaeth hynny ddychwelyd ansawdd bywyd iddo nad oeddwn i'n meddwl ei fod yn bosib.
Mae Hemp Heros yma am y tymor hir, ac mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi ein bod yn ehangu ein hystod o gynhyrchion ar draws Ewrop a'r Unol Daleithiau - gan helpu i wella bywydau hyd yn oed ragor o bobl ac anifeiliaid."
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn un o bartneriaid y rhaglen Cymru gyfan gwerth £24 miliwn, Cyflymu, ac mae'n cefnogi gweithgarwch i droi syniadau addawol o'r sectorau gwyddor bywyd, iechyd a gofal yng Nghymru yn gynhyrchion, yn brosesau ac yn wasanaethau newydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.swansea.ac.uk/accelerate-htc