Mae partneriaeth traws-sector yn darparu gwerthusiad gwasanaeth pwysig ar y ddyfais brofi NGPOD, a allai helpu i wella canlyniadau i gleifion sydd angen bwydo nasogastrig.

Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn cydweithio â Sefydliad TriTech  ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, NGPOD Global Ltd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddeall y gwerth a gafwyd o ddefnyddio’r ddyfais brofi NGPOD arloesol ar gyfer cleifion sydd angen bwydo nasogastrig. Bydd y prosiect tri mis hwn yn arwain at gynnal gwerthusiad gwasanaeth mewn wardiau strôc yn y ddau Fwrdd Iechyd rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf.



Yr angen am well profion



Defnyddir tiwbiau bwydo nasogastrig pan na all cleifion lyncu bwyd, hylifau neu feddyginiaeth. Ar ôl ei fewnosod, mae canllawiau cenedlaethol yn mynnu bod clinigwyr yn cadarnhau bod y tiwb nasogastrig wedi’i osod yn gywir cyn bob tro y caiff ei ddefnyddio. Mae’r prawf presennol yn golygu bod angen sugno hylifau o'r corff drwy’r tiwb yn gyntaf ac yna eu roi ar stribedi prawf pH. Mae profi’n hanfodol gan fod tiwb sydd wedi’i osod yn anghywir yn gallu arwain at ganlyniadau negyddol.



Fodd bynnag, gall y drefn brofi bresennol gymryd llawer o amser, sy’n galw am ddehongli’r mesur pH, gyda’r claf hefyd o bosibl angen pelydr x i gadarnhau’r canlyniadau. Gall dulliau profi o’r fath ohirio triniaeth a chynyddu aneffeithlonrwydd mewn lleoliad gofal iechyd.



Mae NGPOD Global Ltd wedi datblygu NGPOD i helpu i gael gwared ar yr heriau hyn. Mae’r dechnoleg hon yn defnyddio synwyryddion hyblyg sy’n cael eu mewnosod yn y tiwb nasogastrig i bennu lefel pH ddiogel yn gyflym ac yn gywir, ac a all bwydo trwy nasogastrig ddechrau.



Gobeithir y bydd y prosiect yn dangos gostyngiad mewn ceisiadau pelydr X, ochr yn ochr â gwella effeithlonrwydd profion nasogastrig ac oedi cyn triniaeth. Os gwelir gostyngiad yn nifer y pelydrau X, gallai hyn leihau’r gost gyffredinol o osod tiwb nasogastrig a rhyddhau capasiti mewn adrannau radioleg.



Sut bydd gwerthusiad y gwasanaeth yn gweithio?



Bydd yr astudiaeth hon yn helpu timau clinigol, diogelwch, caffael ac uwch-reolwyr i ddeall gwerth rhoi NGPOD ar waith fel dewis amgen yn lle profion stribed pH ar gyfer cleifion sydd angen bwydo nasogastrig. Bydd y prosiect hefyd yn gwerthuso os yw’r driniaeth yn adddas i’r claf, os yw’n gost effeithio ar draws y system iechyd mewn sefyllfaoedd go iawn ac a yw NGPOD yn effeithio ar ganlyniadau cleifion.



Mae NGPOD Global yn ariannu’r gwaith o werthuso’r gwasanaeth, yn cyflenwi’r dyfeisiau a darparu hyfforddiant i staff gofal iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle bydd y dyfeisiau’n cael eu treialu yn eu wardiau strôc gofal eilaidd. Ar ben hynny, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau datblygu prosiectau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymorth cyfathrebu, a bydd TriTech yn ysgrifennu’r gwerthusiad terfynol gan ddefnyddio dadansoddiad Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.



Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae’r prosiect hwn yn dangos sut gall byrddau iechyd a diwydiant weithio mewn partneriaeth i brofi technoleg arloesol, a gwerthuso os oes modd cyflawni safonau gwell o ddiogelwch ac effeithlonrwydd, a sicrhau canlyniadau gwell i gleifion. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda’r holl bartneriaid i asesu’r defnydd o’r ddyfais feddygol arloesol hon ac edrychwn ymlaen at ddysgu sut y gall ychwanegu gwerth.” 



Dywedodd Marcus Ineson, Prif Swyddog Marchnata:

"Gwyddom o’r treial clinigol NGPOD fod y system yn ddiogel ac yn fwy effeithiol na’r dulliau presennol pan gaiff ei defnyddio mewn sefyllfa ymchwil. Fodd bynnag, mae gwerthusiadau bach, llai ffurfiol mewn amgylcheddau go iawn wedi dangos canlyniadau gwell fyth na’r treial. Y peth cyffrous am y gwerthusiad hwn o’r gwasanaeth yw y byddwn yn awr yn gallu pennu effaith NGPOD ar ganlyniadau a gwerth i’r system gofal iechyd gan ddefnyddio arbenigedd Tritech yng Nghymru, sy’n arwain y byd ym maes Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth."

Dywedodd Karen Thomas, Cyd-bennaeth Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: 

“Rydyn ni’n awyddus i werthuso NGPOD mewn ymarfer clinigol yn lleol; deall ei effaith bosibl ar ofal cleifion, lleihau oedi cyn dechrau ar driniaethau maeth a hydradu, a chael gwybod beth mae’r tîm yn ei deimlo am ei ddefnyddio’n ymarferol.”



Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Peirianneg Glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae’r risg sy’n peryglu bywyd o ganlyniad i gamosod damweiniol tiwbiau nasogastrig sy’n rhoi bwyd neu feddyginiaeth i gleifion sy’n ddifrifol wael yn cael ei hystyried yn ‘ddigwyddiad ataliadwy’ yn y GIG. Mae’r argymhellion cenedlaethol bellach yn canolbwyntio ar gytuno ar safonau a manylebau sy’n ymwneud â dylunio dyfeisiau, yn ogystal ag ymchwilio i dechnolegau newydd. Bydd y prosiect hwn o bosibl yn lleihau achosion o gamosod damweiniol, ac felly’n lleihau cymhlethdodau diangen, gan greu canlyniadau gwell i gleifion ar yr un pryd.”