Strategaeth arloesi newydd wedi'i lansio er mwyn creu Cymru gryfach, decach a mwy gwyrdd
Yr wythnos hon rydyn ni'n croesawu'r uchelgais a bennwyd gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw lansio Strategaeth Arloesi newydd Cymru. Mae hyn yn rhoi’r gwaith o greu diwylliant o arloesi cryf, cyson a chysylltiedig ar flaen y gad o ran helpu i gyfoethogi ein hiechyd a’n llesiant, ein heconomi a’n hamgylchedd.