Pontio’r bwlch: Gofal Cymdeithasol Cymru yn camu ymlaen i greu dyfodol cynhwysol yn ddigidol i bobl yng Nghymru
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau uchelgeisiol i wella’r broses o fabwysiadu technoleg ddigidol ac i fynd i’r afael ag allgáu digidol. Maent wedi comisiynu adroddiad newydd sy’n nodi meysydd allweddol ar gyfer datblygu, cefnogi a blaenoriaethu arloesedd digidol yng Nghymru.