Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch

Mae’r Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch yn gyllidwr arloesedd gan lywodraeth y DU ar gyfer Amddiffyn a Diogelwch. Ein nod yw canfod ac ariannu arloesedd y gellir manteisio arno er mwyn sicrhau dyfodol mwy diogel. Mae gennym amrywiaeth o gyllid i gyflymu syniadau o unrhyw sector er budd Amddiffyn a Diogelwch. Rydyn ni eisiau syniadau gan amrywiaeth eang o arloeswyr ac mae gennym dîm o bartneriaid arloesi, o bob cwr o’r DU, sydd yma i helpu i arwain y rheini sydd â diddordeb yn y cyllid sydd ar gael.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Biofanc Canser Cymru

Mae Biofanc Canser Cymru yn brosiect sy'n ceisio casglu samplau o waed a meinwe gan gleifion ledled Cymru sy'n cael llawdriniaeth lle mae canser yn ddiagnosis posibl. Yna gall ymchwilwyr gael mynediad at y samplau hyn ar gyfer ymchwil canser, a gall Banc Canser Cymru hefyd ddarparu gwasanaethau technegol fel creu microaraeau meinwe neu gasglu delweddau microsgop o gelloedd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Omics Hub Wales

Mae Omics Hub Wales yn labordy profi contractau sy'n darparu gwasanaethau dadansoddi ar gyfer ymchwil proteomeg. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys adnabod protein gan ddefnyddio sbectrometreg más, mapio proteomau, ac electrofforesis gel.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Clear_Pixel VR

Mae Clear_Pixel VR yn cynnig rhaglenni hyfforddiant gweithdrefnol sy'n seiliediag ar labordai realiti rhithwir, sy'n galluogi defnyddwyr i ryngweithio ag offer labordy mewn amgylchedd rhithwir. Yn benodol, mae Clear_Pixel VR wedi datblygu modiwlau hyfforddiant niwrowyddoniaeth i ddefnyddwyr allu ymarfer arbrofion electroffisioleg.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Human Data Sciences

Mae Human Data Sciences yn gwmni gwyddor data o Gymru sydd wedi datblygu Livingstone, llwyfan dadansoddi ar-lein sy'n trawsnewid data gofal iechyd yn adroddiadau, e.e. dadansoddiadau epidemiolegol neu economaidd. Mae'r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau ymchwil, gan gynnwys economeg iechyd ac ymchwil canlyniadau, ymchwil ffarmacolegol a dehongli data.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

ImmunoServ

Mae ImmunoServ yn gwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sy'n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau ym maes imiwnoleg. Mae’r cwmni’n datblygu profion imiwnolegol, gan gynnwys profion celloedd T ar gyfer COVID-19. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan y cwmni’n cynnwys gwasanaethau labordy i gefnogi datblygiad profion imiwnedd newydd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

InBio

Mae InBio yn gwmni diagnosteg sy'n arbenigo mewn proteinau gweithgynhyrchu a phrofion imiwnedd ar gyfer ymchwil a diagnosteg i alergeddau ac asthma. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau technegol fel profi alergenau mewn samplau amgylcheddol, biolegol a bwyd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

The Baker Company

Mae The Baker Company yn weithgynhyrchwr cynhyrchion labordy fel cypyrddau diogelwch biolegol, meinciau glân a fume hoods ar gyfer cymwysiadau Biotechnoleg, fferyllol ac ymchwil glinigol. Yn 2011, prynodd Baker gwmni Ruskinn Technology ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gwneuthurwyr gweithfannau anaerobig a gweithfannau lle mae'r atmosffer wedi'i addasu.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Thermo Fisher

Mae Thermo Fisher yn ddarparwr mawr o offer meddygol, offerynnau dadansoddol, adweithyddion a nwyddau traul, meddalwedd a gwasanaethau i'r diwydiant gwyddorau bywyd. Yn 2011, prynodd y cwmni Sterilin, darparwr nwyddau traul labordy, fel dysglau petri, pibedau a photeli casglu samplau, sydd wedi’i leoli yn ne Cymru. Yn ogystal, mae Thermo Fisher yn berchen ar Synexus, sefydliad sy'n cynnal treialon clinigol ar gyfer cwmnïau fferyllol a Biotechnoleg. Mae gan Synexus glinig yng Nghaerdydd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Revvity

Mae Revvity (oedd yn arfer bod yn rhan o Perkin Elmer) yn ddarparwr offer ar gyfer ymchwil a datblygu mewn labordai (e.e. offerynnau dadansoddi genomig a phroteinau, imiwnobrofiadau a llinellau celloedd), llwyfannau awtomeiddio labordai, a phrofion diagnostig clinigol ar gyfer amrywiaeth o glefydau. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau technegol, gan gynnwys sgrinio a phrofi cyn-glinigol a chlinigol. Mae’r cwmni wedi’i leoli yn yr Unol Daleithiau, ac mae ganddo gyfleuster gweithgynhyrchu yn Llantrisant

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd: