Ipsen Biopharmaceuticals

Mae Ipsen yn gwmni biofferyllol sy’n datblygu ac yn masnacheiddio cynhyrchion fferyllol ym meysydd Oncoleg, Clefyd Prin a Niwrowyddoniaeth. Lleolir pencadlys datblygu a gweithgynhyrchu Ipsen yn Wrecsam, ac mae’n gyfrifol am ddatblygu a gweithgynhyrchu cynnyrch niwrotocsin.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Mariposa Therapeutics

Mae Mariposa Therapeutics yn gwmni deillio o Neem Biotech sy'n canolbwyntio ar ddatblygu therapïau ar gyfer clefydau sy'n gysylltiedig â ceratin. Yn dilyn astudiaethau cyn-glinigol, mae Mariposa yn datblygu rhaglen arweiniol i fynd i dreialon clinigol i drin Epidermolysis bullosa simplex.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

ONYA Therapeutics

Mae ONYA Therapeutics yn gwmni biotechnoleg newydd ac yn gwmni deillio o Neem Biotech, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu therapïau gwella clwyfau newydd drwy atal heintiau bacteriol. Mae gan ONYA dri chynnyrch ar y gweill sydd ar wahanol gamau o ddatblygiad cyn-glinigol.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Neem Biotech

Mae Neem Biotech yn gwmni darganfod cyffuriau sy'n canolbwyntio ar ganfod moleciwlau bach i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthfacterol. Ar ôl darganfod moleciwlau addawol, mae’r cwmni wedi creu tri chwmni deillio i ddatblygu a masnacheiddio’r asedau hyn ymhellach; Mootral, ONYA Therapeutics a Mariposa Therapeutics.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

EuroCaps

Mae EuroCaps yn Gynhyrchydd Contract Capsiwlau Softgel sy’n cyflenwi'r marchnadoedd ychwanegiadau maeth ac OTC fferyllol. Mae’r cwmni’n gweithredu cyfleuster GMP sydd wedi’i drwyddedu gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA).

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

BioExtractions (Wales)

Mae BioExtractions Wales yn darparu gwasanaeth contract o gynhyrchion unigol ac ar wahân fel peptidau a moleciwlau synthetig mawr o gymysgeddau cymhleth. Cynigir y gwasanaethau hyn i’r diwydiannau fferyllol, agrocemegol, cemegol a bwyd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Nanopharm

Mae Nanopharm yn sefydliad ymchwil contract sy’n darparu astudiaethau cyn-fformiwleiddio, datrysiadau fformiwleiddio a chymorth dadansoddol yn ystod pob cam o ddatblygu cyffuriau a chynhyrchion trwynol a geneuol. Mae’r cwmni wedi’i leoli yng Nghasnewydd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Williams Medical Supplies

Mae Williams Medical Supplies yn cyflenwi cynhyrchion fferyllol, offer diagnosteg, offer meddygol a nwyddau traul. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau, gan gynnwys profi a thrwsio offer.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Sharp Clinical Services

Mae Sharp Clinical Services yn gyflenwr gwasanaethau pecynnu, labelu a dosbarthu treialon clinigol ar gyfer cwmnïau fferyllol a biotechnoleg o dreialon cam 1 hyd at lansiad masnachol. Mae gwasanaethau’r cwmni’n cynnwys gwasanaethau dadansoddi a fformiwleiddio, gweithgynhyrchu contractau, pecynnu sylfaenol ac eilaidd, storio a dosbarthu.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Evans Pharmaceuticals

Mae Evans Pharmaceuticals yn ddosbarthwr cyfanwerthu trwyddedig yn y DU ac mae’n allforio cynhyrchion fferyllol brand a generig, cynnyrch dros y cownter, meddyginiaethau didrwydded, cyflenwadau ysbyty ac offer.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd: