Softgel Solutions
Mae Softgel Solutions yn wneuthurwr offer sydd ei angen ar gyfer gweithgynhyrchu fferyllol, gan gynnwys pecynnau pothellog, offer labelu a phympiau meddyginiaeth
Mae Softgel Solutions yn wneuthurwr offer sydd ei angen ar gyfer gweithgynhyrchu fferyllol, gan gynnwys pecynnau pothellog, offer labelu a phympiau meddyginiaeth
Mae Simbec-Orion yn sefydliad ymchwil contract gwasanaeth llawn sy’n cynnig gwasanaethau rheoli clinigol o gam 1 i gam 3. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys Scintigraffeg, gwyliadwriaeth ffarmacolegol, rheoli data treialon a gwasanaethau labordy canolog. Mae'r cwmni'n darparu'r gwasanaethau hyn ar draws nifer o feysydd therapiwtig, ond yn arbenigo mewn Oncoleg a Chlefydau Prin.
Mae Gwalia Healthcare yn wneuthurwr ac yn gyflenwr cynwysyddion a chaeadau gradd fferyllol. Mae adran dyfeisiau meddygol y cwmni yn gweithgynhyrchu cydrannau ac yn cydosod dyfeisiau.
Mae Dynamic Extractions yn gwmni deillio llwyddiannus o Brifysgol Brunel (sydd wedi’i leoli yn Nhredegar erbyn hyn). Cafodd ei sefydlu i fasnacheiddio’r dechnoleg Cromatograffaeth Gwrthgerrynt Hydrodynamig (HdCCC) a ddatblygwyd gan Sefydliad Biobeirianneg Brunel (BIB). Mae gan y dechnoleg y potensial i gael ei ddefnyddio ym maes sgrinio trwybwn uchel ar gyfer darganfod cyffuriau a datblygu prosesau mewn defnydd masnachol ar raddfa fawr.
Mae ReNeuron wedi datblygu llwyfan technoleg exosome sy’n cynnig mecanwaith cyflawni ar gyfer amrywiaeth o lwythi posibl a allai gynnwys siRNA, mRNA, proteinau, moleciwlau bach a genynnau i fath penodol o gell mewn meinwe benodol. Mae’r cwmni nawr yn chwilio am bartneriaethau gyda chwmnïau sy’n datblygu ymgeiswyr addawol am gyffuriau a allai elwa o ddefnyddio’r llwyfan hwn.
Mae BioMonde yn gwmni fferyllol a gofal clwyfau rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynhyrchu a dosbarthu cynnyrch therapi digramennu gyda larfa (a elwir hefyd yn therapi cynrhon) i'w defnyddio mewn clwyfau cronig a chlwyfau sy’n anodd eu gwella. Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu ei gynnyrch ledled y DU ac Ewrop o’i gyfleusterau cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y DU a Hambwrg, yr Almaen.
Mae TrakCel wedi datblygu OCELLOS, platfform meddalwedd ar gyfer rheoli’r gadwyn gyflenwi ar gyfer therapi celloedd a genynnau uwch. Mae'r platfform yn addas ar gyfer therapïau mewn lleoliadau treialon clinigol a masnachol. Mae TrakCel hefyd wedi lansio gwasanaeth ymgynghori i rannu eu harbenigedd mewn datblygu prosesau therapi celloedd a genynnau
Mae St Mary’s Pharmaceutical Unit (SMPU) yn wneuthurwr cynnyrch meddyginiaethau didrwydded (Specials) sydd wedi’i reoleiddio a’i drwyddedu gan MHRA, ac mae’n darparu amrywiaeth o feddyginiaethau a gwasanaethau fferyllol i gleifion a chwsmeriaid ledled y byd. Mae SMPU yn datblygu triniaethau newydd i gleifion o gysyniad cychwynnol, neu fformwleiddiadau ar gyfer angen clinigol arbennig fel gweithdrefn newydd neu ar gyfer diogelwch cleifion.
Mae Neurochase yn fusnes newydd yng Nghaerdydd sydd wedi datblygu system cyflenwi cyffuriau ar gyfer darparu therapïau i'r system nerfol ganolog gan ddefnyddio Darpariaeth Darfudiad Gwell, gan gynnwys therapïau celloedd a genynnau.
Ffurfiwyd Biodexa Pharmaceuticals yn sgîl uno Midatech Pharma o Gaerdydd, a Bioasis o’r Unol Daleithiau yn 2022. Roedd Midatech yn arbenigo mewn datblygu technolegau ar gyfer darparu cyffuriau’n well, tra bod Bioasis yn datblygu cyffuriau i drin anhwylderau’r system nerfol ganolog. Mae Biodexa wedi cyfuno'r technolegau hyn i ddatblygu piblinell o gynhyrchion sydd wedi'u hanelu at ganserau sylfaenol a metastatig yr ymennydd. Mae prif gynnyrch y cwmni’n cael ei asesu mewn treialon clinigol ar hyn o bryd.