MeOmics Precision Medicine
Mae MeOmics yn gwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu prawf ffisiolegol ar gyfer clefydau seiciatrig gan ddefnyddio cyfuniad o ddeallusrwydd artiffisial a bôn-gelloedd i ragfynegi ymateb claf i therapi cyffuriau. Gellir defnyddio'r llwyfan hwn ym maes darganfod cyffuriau fel prawf sgrinio cyn-glinigol, ac efallai y bydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol mewn diagnosis clefydau a meddygaeth bersonol.