Mae’r prosiect QuicDNA yn cynnwys partneriaid traws-sector a chyllidwyr i sicrhau cyrhaeddiad ac effaith eang technoleg biopsi hylif. Mae biopsi hylif yn ddewis arall syml ac anymwthiol yn lle biopsïau tiwmor llawfeddygol a wneir drwy brawf gwaed, neu gellir ei ddefnyddio i ategu biopsi tiwmor i gwtogi’r amser at driniaeth. Mae’r fideo hefyd yn cynnwys gwybodaeth gan Craig Maxwell, sy’n trafod effaith y prosiect hwn, a phwysigrwydd ymdrechion codi arian parhaus.
“Rwy’n credu bod Craig wedi bod yn gwbl unigryw yn hyn o beth. Mae wedi manteisio ar y cyfle, er bod ganddo ddiagnosis datblygedig o ganser, i ddweud beth y gall ei wneud i wella’r system a gwella canlyniadau i gleifion sy’n dod ar ei ôl. Sy'n ysbrydoliaeth i’r gweddill ohonom. Mae’n ein hysbrydoli i weithio’n fwy effeithiol ledled Cymru.” Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru
Gall canser atal pobl rhag byw bywydau iachach a hirach, a chynyddu’r pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Gallwn helpu i wella hyn drwy yrru arloesedd ym maes gwyddorau bywyd i reng flaen gofal.
"Cancer care in Wales is advancing, but challenges remain. By showcasing “Mae gofal canser yng Nghymru yn datblygu, ond mae heriau’n parhau. Drwy arddangos datblygiadau arloesol fel QuicDNA a CanSense, ein nod yw ysbrydoli a dangos sut gall technolegau arloesol drawsnewid sut mae canser yn cael ei ganfod a’i drin. Mae partneriaethau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant yn hanfodol. Rydyn ni’n meithrin cydweithio i gyflymu’r gwaith o gyflwyno atebion arloesol ar gyfer gofal canser.” - Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru