Wrth i ni gyhoeddi ein llwyddiannau yn ystod 2023-24, mae pethau’n brysurach nag erioed yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau breision tuag at gyflawni’n cynlluniau ar gyfer 2024-25, felly roeddwn i eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Fis yma, fe wnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2023-24 ac mae’n llawn dop o lwyddiannau. O’n gwaith i helpu i lywio Fforwm Diwydiant Canser Cymru, i’r holl gynnydd a wnaethom ym meysydd blaenoriaeth allweddol y llynedd sef meddygaeth fanwl a deallusrwydd digidol ac artiffisial. Gallwch chi ddarllen yn ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24 am yr effaith rydyn ni wedi’i chael, gan gynnwys y 50,000 o bobl a elwodd o ddatblygiadau arloesol y cyfrannodd ein sefydliad tuag atynt ym maes iechyd.
Ond bydd yr adroddiadau blynyddol ond yn dweud wrthych chi am ein gwaith hyd at fis Ebrill eleni. Ers hynny, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i gyflawni ein cynlluniau ar gyfer 2024-25. Dyma rywfaint o’r wybodaeth ddiweddaraf:
Ein Prif Weinidog newydd i Gymru
Ym mis Awst, fe wnaethom groesawu Eluned Morgan fel Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru. Buom yn gweithio’n agos gydag Eluned a’i thîm yn ei rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rydyn ni wedi gweld â’n llygaid ein hunain ei hymrwymiad i gydweithio â diwydiant i gyflwyno datblygiadau arloesol ym maes iechyd a thechnolegau newydd ar draws GIG Cymru.
Nawr, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut bydd hi’n parhau i sbarduno newid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a beth ddaw i Gymru yn ystod tymor nesaf y Llywodraeth. Ac wrth gwrs, rydyn ni’n awyddus i barhau i gefnogi unrhyw gynlluniau a fydd yn datgloi potensial y gwyddorau bywyd i hybu iechyd a ffyniant i bobl Cymru.
Mynd i’r Afael â Chanser
Un o’r pethau a roddodd y balchder mwyaf i ni'r llynedd oedd ein gwaith gyda Fforwm Diwydiant Canser Cymru. Ni fu erioed yn gliriach beth yw gwerth ymrwymiad hirdymor i dynnu ynghyd y bobl iawn, a gweithio’n barhaus i sicrhau mai anghenion cleifion sy’n sbarduno’r gwaith. Yn y pen draw, arweiniodd dros ddwy flynedd o ymdrech at lansio rhaglen Trechu Canser Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi newid gwirioneddol ar waith eleni: mentrau Cymru gyfan i wella canlyniadau canser ar draws ein gwlad. Dyma gyfle go iawn i ganolbwyntio ar raglen waith a all gael effaith enfawr ledled y wlad ac rydyn ni’n edrych ymlaen at yr effaith drawsnewidiol y gallai hyn ei chael.
I gydnabod brys yr anghenion ym maes canser, eleni rydym wedi ychwanegu Canser: Gwella canlyniadau yng Nghymru i’r meysydd gwaith rydyn ni’n eu blaenoriaethu. Ac rydyn ni eisoes wedi lansio ein cyfres canser – astudiaethau achos fideo sy’n tynnu sylw at waith rhyfeddol dau brosiect sy’n defnyddio technoleg arloesol i ddatblygu gofal canser.
Mae wedi bod yn bleser i weithio o’r dechrau un ar un o’r prosiectau sy’n rhan o’n cyfres ganser – sef QuicDNA. Rydyn ni wedi parhau i gefnogi hyn eleni, gan gynnwys cyfathrebu'r broses genedlaethol o gyflwyno eu technolegau genomeg a dilyniannu DNA arloesol ar gyfer rhoi diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Bydd prawf biopsi hylif anymwthiol cyflym yn cael effaith drawsnewidiol ar pa mor gyflym y byddwn ni’n gallu rhoi diagnosis o ganser yr ysgyfaint, ac rydyn ni’n falch ein bod yn parhau i gefnogi'r gwaith hwn.
Rhoi’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar Waith
Y llynedd, fe wnaethom chwarae rhan allweddol yn y gwaith o alw ynghyd Grŵp Diddordeb Arbennig Deallusrwydd Artiffisial (AI) i annog cydweithio a rhannu arloesedd ym maes deallusrwydd artiffisial er budd cleifion. Eleni, rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar waith er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith o fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd gyfrifol yng Nghymru. Rydyn ni’n cefnogi’r Comisiwn i ddatblygu ac adolygu dulliau arloesol a fydd yn gwneud technolegau deallusrwydd artiffisial yn fwy hygyrch yng Nghymru, gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn cael eu gweithredu’n ddiogel ac yn foesegol.
Dim ond cipolwg yw hwn ar y cyfan rydyn ni wedi ei gyflawni fel rhan o’n nodau ar gyfer 2024-25, felly rydw i eisoes yn edrych ymlaen at bopeth y bydd gennym i adrodd arno erbyn diwedd y flwyddyn.
I weld am ein holl lwyddiannau'r llynedd, darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 nawr.