Mae hanner degawd wedi mynd heibio ers i ni drawsnewid ein sefydliad yn rhyngwyneb deinamig sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod arloesedd ym maes gwyddorau bywyd yn cael ei ddarparu ar y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn werth chweil, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i rannu rhai o fy myfyrdodau ar ein taith hyd yma, yn ogystal â’n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol...
Yn ystod mis Gorffennaf, rydyn ni wedi cael balwnau a rhubanau i ddathlu ein pen-blwydd yn bump! Mae wedi bod yn fraint bod wrth y llyw dros y cyfnod hwn, lle rydyn ni wedi helpu i greu 1,207 o swyddi, wedi cefnogi dros 1,419 o sefydliadau ac wedi cynyddu gwerth ychwanegol gros dros £58,513,500.
Un o’r agweddau mwyaf nodedig fu cydweithio â chymaint o bartneriaid amrywiol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant a’r byd academaidd. Ein pwrpas yw darparu cymorth, ond eich dyfeisgarwch, eich ymrwymiad a’ch dyfalbarhad chi sydd wedi arwain at nifer o ddatblygiadau arloesol hanfodol sy’n gwella canlyniadau i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau, yn meithrin effeithlonrwydd, ac yn ysgogi cynnydd economaidd. Hoffwn ddiolch o waelod calon i bob un ohonoch.
Y stori hyd yma
Mae cymaint wedi newid ers 2018. Meddygaeth fanwl, er enghraifft. Mae defnyddio gwneuthuriad genetig unigryw cleifion yn caniatáu i ni greu therapïau wedi’u targedu i wella’r triniaethau ar gyfer clefydau sy’n bodoli eisoes neu hyd yn oed gyflyrau na fu modd eu trin tan nawr.
Rydyn ni’n gweld hyn fel rhan o ddyfodol gofal iechyd nad yw’n agored i drafodaeth, ac mae ein Pennaeth Datblygu Economaidd, Gareth Healey, yn edrych yn fanylach ar hyn yn ein pumed blog pen-blwydd sy’n canolbwyntio ar feddygaeth fanwl.
Yn 2018, roedd cyflwyno’r math hwn o dechnoleg i’n GIG yn dal i fod yn y camau cynnar. Flwyddyn yn unig cyn hynny, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Grŵp Diddordeb Arbennig Therapi Celloedd a Genynnau drwy ein sefydliad ni, gan arwain wedyn at y Datganiad o Fwriad ar gyfer Therapïau Uwch. Ers hynny, mae GIG Cymru wedi dechrau defnyddio triniaethau therapi CAR-T ar gyfer cleifion canser y gwaed ac wedi dechrau gwerthusiad o ddefnyddio genomeg i ganfod canser yn gynt ar raddfa fawr.
Mae cyfradd mabwysiadu arloesedd digidol hefyd wedi cyflymu’n fwyfwy. Yn 2018, roedd bron pob rhyngweithiad gofal iechyd yng Nghymru yn un wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, un o effeithiau anuniongyrchol Covid-19 yw’r cynnydd a welwyd mewn technoleg ddigidol i gael gafael ar wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys monitro o bell; gwnaethom gefnogi nifer o brosiectau cysylltiedig â hyn drwy fentrau fel y Gronfa Atebion Digidol i sicrhau gofal yn nes at y cartref – gan gynnwys un ar gyfer cleifion sydd â methiant y galon ac un arall i asesu clwyfau yn y gymuned. Rydyn ni hefyd wedi gweld datblygiadau anhygoel o ran trin canser drwy arloesedd digidol, lle mae Cymru wedi manteisio ar ei chryfderau drwy lansio’r rhaglen genedlaethol gyntaf yn y byd ar gyfer llawdriniaeth gyda chymorth roboteg.
Mae’n hollbwysig cydnabod arwyddocâd Covid-19. Roedd y term “digynsail” yn cael ei ddefnyddio’n aml i ddisgrifio’r sefyllfa, gan fod pob unigolyn ledled y byd wedi gorfod addasu ac ymateb i’r pandemig mewn ffordd na welwyd ei thebyg o’r blaen. Roedd arloesedd yn chwarae rhan hollbwysig yn hyn o beth. O frechlynnau i becynnau profi cyflym a’r trawsnewid digidol a drafodwyd uchod, roedd yn un o’r prif bethau a wnaeth helpu i’n harwain drwy’r pandemig. Yn ogystal â’n gweithwyr allweddol, wrth gwrs – gan gynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol – a oedd yn gweithio’n ddiflino i barhau i ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru; diolch i chi.
Yn ystod y cyfnod hwn, fe’n penodwyd fel y pwynt cyswllt ar gyfer cwmnïau a oedd yn ceisio darparu cyfarpar diogelu personol ardystiedig a chyflenwadau hanfodol eraill. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld sut roedd cwmnïau’n gallu addasu’n rhyfeddol, fel Transcend Packaging, a aeth ati i ailgyfeirio eu hadnoddau i fynd i’r afael ag anghenion sylweddol nad oeddent yn cael eu diwallu.
I ble rydyn ni’n mynd nesaf
O dechnegau newydd arloesol ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion mawr sydd heb eu diwallu i gadw pobl mewn cysylltiad yn well drwy arloesedd digidol, rydyn ni wedi gweld cymaint sydd wedi newid dros y pum mlynedd diwethaf. Mae’n gyffrous meddwl ble y byddwn ni’n mynd yn ystod y pum mlynedd nesaf...
Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu amrywiaeth o bwysau na ellir eu hanwybyddu. Mae ôl-groniad o bobl sydd angen gofal, poblogaeth sy’n byw’n hirach gyda chydafiachedd, a chyfyngiadau economaidd ac adnoddau i gyd yn cael effaith.
Arloesedd yw’r allwedd i helpu i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn. Nid dim ond helpu i fabwysiadu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a fydd o fudd i bobl rydyn ni’n ei olygu – er bod hyn yn hanfodol. Mae hefyd yn ymwneud â’r darlun ehangach a gwneud pethau’n wahanol. Gallwn sbarduno trawsnewid drwy greu system iechyd a gofal cymdeithasol gwbl integredig sy’n rhoi hwb i les; gyda thimau o wahanol sectorau a chefndiroedd yn gweithio’n gyfannol gyda’i gilydd.
Mae Cymru wedi arwain y ffordd ers tro byd o ran annog system fwy cydgysylltiedig, ac mae’n galonogol iawn gweld sut mae ein cenedl yn parhau i yrru ac adeiladu ar hyn, fel y dangosir mewn strategaethau fel y Rhaglen Lywodraethu.
Fodd bynnag, dylem ystyried bod gan bob un o’r amgylcheddau hyn ddiwylliannau a ffyrdd unigryw o weithio. Mae Aimee Twinberrow, Arweinydd Arloesedd Digidol Gofal Cymdeithasol Cymru, yn archwilio realiti allgáu digidol ym maes arloesedd yng Nghymru mewn blog diweddar difyr iawn.
Un o’r prif bethau rydyn ni’n canolbwyntio arno yw atal. Bydd grymuso pobl i fyw bywydau iachach, hapusach a hirach nid yn unig yn gwella eu canlyniadau, ond hefyd yn cefnogi ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn y tymor hir. Rydyn ni hefyd yn annog gofal yn nes at y cartref, lle mae arloesi’n golygu bod pobl yn gallu cael y gofal hanfodol sydd ei angen arnyn nhw mewn cymunedau neu yn eu tai eu hunain, yn hytrach na theithio i ysbytai.
Wrth galon popeth, ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran buddsoddi ac arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. I’r bobl sy’n byw yma, rydyn ni am iddynt gael mynediad at system sy’n cael ei gyrru gan dechnolegau arloesol sy’n darparu’r gofal gorau. Rydyn ni’n credu’n gryf y gallwn, drwy arloesi a chydweithio, droi’r weledigaeth hon yn realiti.
Rydyn ni’n rhoi hwb i arloesedd yn y gwyddorau bywyd er mwyn ei ddefnyddio yn y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Os oes angen cymorth arnoch chi gyda hyn, cysylltwch â ni i weld sut gallwn ni eich helpu chi: hello@lshubwales.com