Taith Gerdded Fawr Cymru

European sustainable development week

Yr wythnos diwethaf cerddodd cydweithwyr o bob rhan o'r rhaglen Cyflymu  bellter llwybr arfordirol Cymru gyfan, sef 870 milltir syfrdanol!

Trefnwyd y #CerddedDrawsCymru gan dîm themâu trawsbynciol y rhaglen, sydd yn gweithio i hyrwyddo dau faes penodol:

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhyw (gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd cyfartal o'r Gymraeg)
  • Datblygu cynaliadwy.

Roedd yr her benodol hon yn ymwneud â chefnogi iechyd a lles da ymysg cydweithwyr, tra hefyd yn helpu i daflu goleuni ar y prosiectau Cyflymu penodol sy'n hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Dywedodd Gareth Healey, Pennaeth Rhaglen Cyflymu

“Mae datblygu cynaliadwy yn prysur ddod yn flaenoriaeth gynyddol yng Nghymru. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a'r holl bartneriaid Cyflymu cysylltiedig, yn falch ac wedi ymrwymo i gefnogi mentrau fel Trawsnewid Eglwys Glanrhyd a'r prosiectau Rhagnodi Cymdeithasol sy'n ceisio mynd i'r afael â'r maes blaenoriaeth hwn. "

Gallwch ddod o hyd i'r holl brosiectau arloesol y mae'r grŵp yn eu cefnogi ar-lein.

Llwyddodd cydweithwyr ar draws partneriaid y rhaglen i glocio 947.72 milltir anhygoel, er gwaethaf y gwynt a’r glaw (ni fyddai wedi bod yn daith gerdded wirioneddol Gymreig pe na bai tipyn iach o dywallt, a fyddai?).

Cymerwch gip ar rai o'n hoff luniau a gipiwyd trwy gydol yr wythnos.

Gallwch ddod o hyd i'r holl luniau a diweddariadau gan y tîm ar Twitter, o dan yr hashnod #CerddedDrawsCymru.

A photo of a dog

A photo of the beach

Cows crossing the road

Lake on a walk as part of Accelerate's Great Welsh Walk

A dog on walk

A photo of priya on steping stones