Ambulance CPD
Mae Ambulance CPD yn ddarparwr DPP ar gyfer staff parafeddygol ac ambiwlans.
Mae Ambulance CPD yn ddarparwr DPP ar gyfer staff parafeddygol ac ambiwlans.
Mae Lubas Medical yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol ar gyfer CPR, AED ac argyfyngau meddygol.
Mae Learna yn ddarparwr diplomâu ôl-raddedig gofal iechyd, cyrsiau Meistr ac MBA ar-lein. Mae Learna wedi'i leoli yng Nghaerdydd, ac yn cyflwyno eu rhaglenni ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Buckingham.
Mae Crispr Biotech Engineering (CBE) yn ddatblygwr cyrsiau hyfforddi sy'n canolbwyntio ar botensial CRISPR-Cas9 i drin clefydau.
Mae Rescape Innovation yn gwmni iechyd digidol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio realiti rhithwir wrth drin cleifion a helpu staff rheng flaen y GIG. Mae Rescape yn datblygu datrysiadau therapi gwrthdynnu realiti rhithwir, sy'n cefnogi lleddfu poen a gorbryder i gleifion pediatrig ac oedolion, yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd. Mae Rescape hefyd yn darparu datrysiadau hyfforddi realiti rhithwir ar gyfer senarios a gweithdrefnau hyfforddi mewn lleoliadau gofal iechyd.
Mae Intelligent Ultrasound yn datblygu offer meddalwedd dadansoddi delweddau clinigol sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial i labelu'r anatomeg a welir mewn delweddau uwchsain yn awtomatig. Mae'r cwmni hefyd yn darparu efelychwyr dysgu dwfn a hyfforddiant uwchsain uwch ar gyfer obstetreg, cardiaidd, ysgyfaint, pwynt gofal, hyfforddiant uwchsain trawsweiniol a thrawsabdomenol.
Mae GoggleMinds yn datblygu rhaglenni hyfforddi ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol y gellir eu darparu drwy VR neu liniaduron. Mae'r rhaglenni hyfforddi yn cwmpasu arbenigeddau clinigol, gan gynnwys meddygaeth, nyrsio, llawfeddygaeth a phroffesiynau perthynol i iechyd.
Mae Authentic World wedi datblygu safeMedicate, cyfres rithwir o raglenni ar gyfer cyfrifo dos sy’n cael eu defnyddio i hyfforddi ac asesu myfyrwyr ac ymarferwyr gofal iechyd mewn meddyginiaeth ddiogel.