Mae CanSense yn gwmni technoleg feddygol newydd sy'n canolbwyntio ar ddatblygu prawf gwaed ar gyfer diagnosis anymwthiol o ganser y coluddyn, gan ddefnyddio modelau sy’n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial. Canser y colon a'r rhefr, y cyfeirir ato hefyd fel canser y coluddyn, yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yn fyd-eang. Mae’n cyfrif am tua 10% o’r holl ddiagnosis o ganser a dyma’r ail brif achos o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chanser yn fyd-eang.
“Mae cleifion yn deall prawf gwaed CanSense: mae’n syml, yn dderbyniol ac yn cael ei ffafrio’n gryf dros golonosgopïau diangen. Mae gallu’r prawf i ganfod arwyddion cynharaf canser yn anhygoel o gyffrous. Mae’r hyn y mae CanSense yn ei wneud yn newid y dirwedd o ran sut rydyn ni’n canfod canser er gwell. Mae’n lle cyffrous iawn i fod ar hyn o bryd.” Yr Athro Dean Harris, Cyfarwyddwr Clinigol CanSense
Gall canser atal pobl rhag byw bywydau iachach a hirach, a chynyddu’r pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Gallwn helpu i wella hyn drwy yrru arloesedd ym maes gwyddorau bywyd i reng flaen gofal.
“Mae gofal canser yng Nghymru yn datblygu, ond mae heriau’n parhau. Drwy arddangos datblygiadau arloesol fel QuicDNA a CanSense, ein nod yw ysbrydoli a dangos sut gall technolegau arloesol drawsnewid sut mae canser yn cael ei ganfod a’i drin. Mae partneriaethau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant yn hanfodol. Rydyn ni’n meithrin cydweithio i gyflymu’r gwaith o gyflwyno atebion arloesol ar gyfer gofal canser.” - Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru