Mae rheoli meddyginiaeth yn her gynyddol, yn enwedig wrth i fwy o unigolion geisio cadw eu hannibyniaeth wrth fyw yn eu cartrefi eu hunain. Gyda bron i ddwy filiwn o bobl dros 65 oed yn y DU yn cymryd saith neu fwy o feddyginiaethau bob wythnos, mae sicrhau ymlyniad yn hanfodol. Fodd bynnag, ni chymerir hyd at 50% o feddyginiaethau ar bresgripsiwn yn ôl y bwriad, gan arwain at gymhlethdodau iechyd a straen ychwanegol ar adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r prosiect YourMeds yn cael ei werthuso ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda chymorth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru (Arweinydd y Prosiect, Louise Baker), gan gyflwyno dyfais ddigidol arloesol sy’n atgoffa defnyddwyr pryd i gymryd eu meddyginiaeth. Mae’r ddyfais hon nid yn unig yn cefnogi unigolion i ymlynu wrth eu meddyginiaethau’n gywir, ond gellir ei chysylltu hefyd â Chanolfan Derbyn Larwm Teleofal neu gylch gofal teulu, gan ddarparu cymorth rhagweithiol ac ataliol, lleihau’r risg o argyfyngau, a gwella llesiant cyffredinol.
“Rydyn ni wedi gweld llawer o bobl yn elwa yn ystod y prosiect. Rydym wedi gallu cefnogi unigolyn i ddod yn ôl allan o gartref gofal, ac roedd yn ysbrydoledig ei weld yn dod adref ac yn rheoli ei feddyginiaethau’n gwbl annibynnol. Mae wedi bod yn hyfryd gweld yr effaith mae wedi’i chael ar Anita, ond nid yn unig ar Anita, ond ar ei theulu hefyd.” Tom Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol – Gwasanaethau cymunedol integredig Pen-y-bont ar Ogwr
Ar ôl cwblhau’r prosiect gwerthuso, bydd gwerthusiad annibynnol yn cael ei gynnal gan Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth, gan gynnwys adborth gan yr holl randdeiliaid perthnasol, sy’n cynnwys defnyddwyr, teuluoedd, fferyllwyr a thimau gofal cartref a theleofal.
Bydd llwyddiant y prosiect yn cael ei asesu gyda golwg ar fabwysiadu’r ddyfais a’r gwasanaeth yn y tymor hir, ei gyflwyno i ranbarthau eraill (neu’n genedlaethol), yn ogystal â’r potensial ar gyfer cymorth tebyg ar gyfer mathau eraill o driniaeth, er enghraifft anadlyddion a diferion llygaid.
“Rydym ni wedi ymrwymo i sbarduno arloesedd sy’n cyflymu’r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae prosiect YourMeds yn enghreifftiau gwych o sut gellir defnyddio technoleg i ddiwallu anghenion esblygol ein poblogaeth, gan alluogi pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.” Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.