Hidlyddion
Datblygu dosbarthwr cyffuriau therapiwtig diogel

Kaleidoscope yw darparwr mwyaf gwasanaethau cymorth i bobl sy'n defnyddio cyffuriau yng Nghymru. Maent wedi bod yn rhan o weithgor anffurfiol, gan gynnwys aelodau o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Abertawe, a’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, yn edrych ar heriau ynghylch dosbarthu cyffuriau ar gyfer therapi ac adsefydlu, yn ystod y pandemig COVID-19. 

Tracio RFID yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae EIDC wedi gweithio gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg i gynnal peilot yn profi tracio RFID. Mae tagiau goddefol wedi cael eu rhoi ar sganwyr bledren, cadeiriau olwyn a gwelyau rhent ledled yr ysbyty, ynghyd â meddalwedd i roi gwybodaeth amser go-iawn i staff ar ble mae offer.

Datblygu Hwb Peirianneg Ddigidol a Ffisegol Uwch (ADPE)

Mae argyfwng COVID-19 wedi tynnu sylw at yr angen i allu ymateb i ddau fater; ail-osod offer sydd wedi'i silffio mewn siopau, a ystyrir allan o drefn oherwydd diffyg rhannau gan gyflenwyr, a, chyfleoedd i brototeipio syniadau arloesol.

Fest Cefnogi Tiwb Tracheostomi

Tracheostomi yw un o'r gweithdrefnau a berfformir amlaf yn yr uned gofal dwys (ICU). Ymhlith y rhesymau dros gyflawni gweithdrefn o'r fath mae: mynd i'r afael â rhwystro llwybr anadlu uchaf, gwell hylendid y geg (rheoli secretiad), a'r angen am awyru hirfaith.

Educating RiTTA

Roedd cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn aml yn cael trafferth cael gafael ar wybodaeth ddefnyddiol o safon uchel i ategu eu dewisiadau a’u penderfyniadau am eu llesiant emosiynol, seicolegol a chorfforol.

Nodweddu Procolagen Dynol Ailgyfunol

Mae ProColl wedi datblygu dull arloesol o gynhyrchu procolagen dynol ailgyfunol (HPC), gan ei wneud yn fanteisiol yn fasnachol ac yn feddygol dros y cynhyrchion colagen sy'n deillio o anifeiliaid sydd ar gael ar y farchnad ar hyn o bryd.

EIDC yn Cydweithio â Patients Know Best a DrDoctor

Fel rhan o'r prosiect hwn, roedd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Patients Know Best (PKB) a Dr Doctor (DrDr) yn cydweithio i wella’r broses o gasglu a storio data PROMs.

Y Mullany Fund â ATiC

Mae ATiC, un o'r partneriaid Cyflymu, yn gweithio gyda myfyrwyr i ddysgu am ymchwil profiad defnyddwyr a'r sector gwyddorau bywyd.

Datblygu dyfais cyfathrebu diwifr

Mae MaskComms yn gydweithrediad rhwng diwydiant, iechyd, ac academia sy'n arbenigo mewn dylunio offer gwisgo masgiau i gynorthwyo gweithwyr cyfathrebu proffesiynol yn amgylchedd yr ysbyty.

Trawsnewid Gofal Cleifion trwy Gyfathrebu Ward Gweledol

Mae partneriaid Cyflymu, y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Phrifysgol Abertawe (HTC), yn cydweithredu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB) i ddatblygu system arddangos ddigidol ryngweithiol newydd i'w defnyddio ar wardiau mewn pedair o ysbytai’r bwrdd iechyd

Recliners Ltd.

Mae ATiC wedi bod yn gweithio gyda Recliners Ltd sy’n datblygu datrysiadau eistedd ar gyfer y marchnadoedd cartref a gofal iechyd. Roedd y ffocws ar gyfres presennol o gadeiriau addasol, o’r enw “Multicare Plus”.

eHealth Digital Media: Byw gyda Dementia

Helpodd tîm ATiC gyda tracio llygaid symudol mewn arbrawf gyda rhieni Kimberley, y mae’r ddau ohonynt yn byw gyda dementia. Allwn ni gefnogi oedolion yn well i fyw yn annibynnol?

Cerebra

Yn y DU heddiw mae tua hanner miliwn o blant a phobl ifanc â chyflyrau ar yr ymennydd sy’n arwain at anghenion cymorth meddygol, addysgol a chymdeithasol cymhleth. Mae Cerebra yn elusen sy'n helpu'r plant hyn a'u teuluoedd i ddarganfod bywyd gwell gyda'i gilydd.

Dyfodol theatrau llawdriniaethau cynaliadwy

Mae angen i adeiladau drawsnewid i fod yn amgylcheddau carbon sero. Mae adeiladau ysbytai a theatrau llawdriniaethau yn defnyddio llawer iawn o ynni ac yn cynhyrchu llawer iawn o wastraff. Mae ysbytai’n cynhyrchu mwy na 5 miliwn tunnell o wastraff bob blwyddyn.

Cultech Ltd

Mae Cyflymu yn ategu’r gwaith o ddilysu ac ymestyn gwaith i fodel llygoden Clefyd Alzheimer newydd wedi ei fireinio, drwy ddod ag academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd at ei gilydd gyda’r tîm yn Cultech Ltd.

Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Llygaid yng Nghymru

Mae’r galw am wasanaethau gofal llygaid yn cynyddu drwy boblogaeth sy’n heneiddio ac yn cynyddu’r risg sy’n gysylltiedig â chlefydau eraill, yn enwedig diabetes. Mae defnyddio technoleg ddigidol i fynd i’r afael ag anghenion clinigol heb eu diwallu wedi cael amlygrwydd cynyddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau gwelliannau sylweddol mewn gofal darbodus.