Wrth i arloesedd digidol fagu momentwm, Aimee Twinberrow, Arweinydd Arloesedd Digidol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru, sy’n archwilio realiti allgáu digidol ledled Cymru. Mae’n archwilio beth sydd angen digwydd i wneud yn siŵr y gall pobl yng Nghymru elwa o dechnolegau digidol arloesol, nodi'r heriau unigryw sy’n wynebu gofal cymdeithasol ac archwilio'r prosiectau cyffrous sy'n digwydd i greu cyfleoedd i adeiladu cydraddoldeb digidol o fewn gofal cymdeithasol.