JR Biomedical
Mae JR Biomedical yn gwmni biotechnoleg sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan OpTIC, Llanelwy, y Deyrnas Unedig, sy’n arbenigo mewn dylunio, datblygu a dosbarthu diagnosteg, gan gynnwys ymchwil, ELISAs a diagnosteg glinigol.
Mae JR Biomedical yn gwmni biotechnoleg sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan OpTIC, Llanelwy, y Deyrnas Unedig, sy’n arbenigo mewn dylunio, datblygu a dosbarthu diagnosteg, gan gynnwys ymchwil, ELISAs a diagnosteg glinigol.
Mae Tarvin Precision yn gwmni Gweithgynhyrchu a Chydosod CNC Manwl, sydd wedi’i leoli ym Mhenarlâg, Sir y Fflint. Mae Tarvin yn datblygu cydrannau cymhleth sydd eu hangen i weithgynhyrchu dyfeisiau meddygol, yn ogystal â chynhyrchu cydrannau cymhleth sydd eu hangen mewn offerynnau gwyddonol.
Mae Leanvation yn cynhyrchu menig llawfeddygol latecs a di-latecs.
Mae Blizzard Protection Systems yn gweithgynhyrchu cynnyrch amddiffyn thermol fel blancedi a bagiau y gall timau gofal trawma eu defnyddio i atal hypothermia.
Mae Bee Robotics yn dylunio ac yn cynhyrchu offerynnau robotig ar gyfer awtomeiddio trin hylifau mewn labordai biotechnoleg. Gellir defnyddio offer y cwmni i awtomeiddio technegau labordy cyffredin, fel profion Western Blot ac echdynnu DNA, ac fe’u cymeradwyir i’w defnyddio mewn profion diagnostig clinigol.
Mae Virustatic wedi datblygu Viruferrin, sef gorchudd tecstilau gwrth-ficrobaidd, gwrthfacterol, gwrthfeirysol a gwrthffyngol sy’n seiliedig ar brotein, a allai gael ei ddefnyddio i leihau lledaeniad clefydau fel COVID-19 a ffliw tymhorol. Mae’r cwmni wedi datblygu’r Virustatic Shield, sef gorchudd wyneb sy’n defnyddio technoleg patentedig y cwmni.
Mae Transcontinental Advanced Coatings yn gyflenwr byd-eang o dechnolegau cotio manwl, gan gynnwys papurau wedi’u cotio, ffilmiau ac is-haenau arbenigol, i ddiwydiannau, gan gynnwys y cyfryngau, gofal iechyd ac electroneg.
Mae Nu Instruments o Wrecsam yn ddylunydd ac yn wneuthurwr sbectromedrau mas perfformiad uchel, i'w defnyddio ym maes gwyddorau ffisegol a bywyd, gan gynnwys delweddu biofeddygol.
Mae Alesi Surgical yn datblygu ac yn masnacheiddio cynnyrch sy’n gwella diogelwch, effeithlonrwydd a chanlyniadau triniaethau llawfeddygol manwl. Sefydlwyd y cwmni fel cwmni deillio o Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT). Mae cynnyrch Alesi Surgical, ULTRAVISION ac ULTRAVISION2, yn lleihau mwg llawfeddygol mewn ystafelloedd llawfeddygol heb fod angen cyfnewid CO2, gan wella gwelededd, lleihau'r angen i lanhau camerâu a lleihau’r defnydd o CO2 mewn adrannau. Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi cael cymeradwyaeth FDA ar gyfer ULTRAVISION2.
Mae Tritech yn gyfleuster arloesi ym maes technoleg feddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n cynnig gwasanaethau i gwmnïau gofal iechyd, gan gynnwys ymchwil, gwerthuso, cyngor a mynediad at bartneriaid prifysgol.