Biplas
Mae Biplas yn gwmni mowldio chwistrellau meddygol sy’n cynhyrchu dyfeisiau meddygol ar gyfer triniaethau llawfeddygol a phecynnau biotechnoleg ar gyfer pecynnau profi am firysau.
Mae Biplas yn gwmni mowldio chwistrellau meddygol sy’n cynhyrchu dyfeisiau meddygol ar gyfer triniaethau llawfeddygol a phecynnau biotechnoleg ar gyfer pecynnau profi am firysau.
Mae Technovent yn wneuthurwr a chyflenwr deunyddiau prosthetig y genau a'r wyneb, gan gynnwys elastomerau silicon, adlynion a systemau cadw magnetig.
Mae BioMonde yn gwmni fferyllol a gofal clwyfau rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynhyrchu a dosbarthu cynnyrch therapi digramennu gyda larfa (a elwir hefyd yn therapi cynrhon) i'w defnyddio mewn clwyfau cronig a chlwyfau sy’n anodd eu gwella. Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu ei gynnyrch ledled y DU ac Ewrop o’i gyfleusterau cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y DU a Hambwrg, yr Almaen.
Mae Lion Laboratories yn gwmni yn y Barri sy’n arbenigo ym maes dadansoddi alcohol mewn anadl. Mae Lion Laboratories yn creu cynhyrchion sy’n cael eu defnyddio mewn practis cyffredinol, i drin alcoholiaeth a damweiniau ac achosion brys, at nifer o ddibenion, gan gynnwys rhoi diagnosis gwahaniaethol o goma, monitro coma ac anafiadau i’r pen, ymchwilio i achosion damweiniau ac osgoi rhyngweithiadau cyffuriau-alcohol a allai fod yn beryglus.
Mae EKF Diagnostics yn gwmni diagnosteg in vitro sy'n dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu a marchnata dadansoddwyr pwynt gofal i fesur haemoglobin, HbA1c a glwcos at ddiben sgrinio a monitro clefydau, yn ogystal â chynhyrchu dyfeisiau labordy, profion a deunyddiau traul. Mae gan EKF hefyd uned gweithgynhyrchu dan gontract ar gyfer cynhyrchion diagnostig newydd.
Mae Ultrawave yn wneuthurwr dyfeisiau glanhau uwchsonig, y gellir eu defnyddio i lanhau offer meddygol fel offer gosod caniwla mewn theatrau llawdriniaethau neu offer deintyddol.
Mae TeloNostix yn gwmni diagnosteg in vitro sy'n darparu dadansoddiad hyd telomerau eglur iawn ar gyfer cymwysiadau clinigol ac ymchwil. Gellir defnyddio’r dechnoleg hon i roi diagnosis i gleifion canser unigol, yn ogystal â rhagweld eu hymateb i driniaethau.
Mae SureChill yn darparu oergelloedd meddygol ar gyfer cyffuriau a brechlynnau sy’n synhwyrol i dymheredd i’w cadw’n oer mewn amgylcheddau caled. Nid oes angen cyflenwad pŵer cyson ar yr oergelloedd hyn ac felly gellir eu defnyddio mewn ardaloedd y gallai diffyg pŵer effeithio arnynt.
Mae RSR yn ddatblygwr a chynhyrchydd diagnosteg feddygol blaenllaw gyda phwyslais penodol ar glefyd thyroid awtoimiwn, diabetes mellitus math 1, niwroimiwnoleg ac awtoimiwnedd uwcharennol. Mae cynhyrchion RSR yn cynnwys dyfeisiau diagnostig in vitro, adweithyddion a phecynnau i ganfod a mesur hunanwrthgyrff amrywiol at ddiben diagnosis a rheoli clefydau.
Mae Rescape Innovation yn gwmni iechyd digidol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio realiti rhithwir wrth drin cleifion a helpu staff rheng flaen y GIG. Mae Rescape yn datblygu datrysiadau therapi gwrthdynnu realiti rhithwir, sy'n cefnogi lleddfu poen a gorbryder i gleifion pediatrig ac oedolion, yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd. Mae Rescape hefyd yn darparu datrysiadau hyfforddi realiti rhithwir ar gyfer senarios a gweithdrefnau hyfforddi mewn lleoliadau gofal iechyd.