R&D Surgical
Mae R&D Surgical yn gwmni sy’n gweithgynhyrchu a dosbarthu offer a dyfeisiau meddygol. Mae'r cwmni'n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion yn y meysydd cardiaidd, thorasig, deintyddol a llawfeddygaeth gyffredinol.
Mae R&D Surgical yn gwmni sy’n gweithgynhyrchu a dosbarthu offer a dyfeisiau meddygol. Mae'r cwmni'n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion yn y meysydd cardiaidd, thorasig, deintyddol a llawfeddygaeth gyffredinol.
Mae Pelican Healthcare yn wneuthurwr cynnyrch meddygol tafladwy blaenllaw ar gyfer gofal stoma, gan gynnwys cydau.
Mae Nova Bioelectrics yn gwmni dylunio sy'n arbenigo mewn helpu cwmnïau i ddylunio a chreu cynnyrch dyfeisiau meddygol ym maes niwrowyddoniaeth. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan Nova yn cynnwys dylunio, datblygu, prototeipio a phrofi cynnyrch.
Mae Neurochase yn fusnes newydd yng Nghaerdydd sydd wedi datblygu system cyflenwi cyffuriau ar gyfer darparu therapïau i'r system nerfol ganolog gan ddefnyddio Darpariaeth Darfudiad Gwell, gan gynnwys therapïau celloedd a genynnau.
Mae Momentum Biosciences wedi datblygu SepsiSTAT, system prosesu samplau gwaed a chanfod organebau sy'n hwyluso diagnosis cyflym o heintiau llif gwaed.
Mae Kingston Medical Equipment and Garments (KMEG) yn fusnes teuluol yn ne Cymru, ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu dillad meddygol, gan gynnwys sgrybs, gynau meddygol a chotiau labordy.
Mae Jiva wedi datblygu platfform deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu systemau deallusrwydd artiffisial ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau, gan gynnwys ym maes gofal iechyd. Gan ddefnyddio’r platfform, mae Jiva wedi creu meddalwedd diagnostig ar gyfer canser y prostad a chlefyd yr afu, ac ar hyn o bryd mae’n ymgysylltu â chwmnïau fferyllol a busnesau bach a chanolig ar gyfer awtomeiddio cyffredinol a chydnabod patrymau.
Mae Intelligent Ultrasound yn datblygu offer meddalwedd dadansoddi delweddau clinigol sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial i labelu'r anatomeg a welir mewn delweddau uwchsain yn awtomatig. Mae'r cwmni hefyd yn darparu efelychwyr dysgu dwfn a hyfforddiant uwchsain uwch ar gyfer obstetreg, cardiaidd, ysgyfaint, pwynt gofal, hyfforddiant uwchsain trawsweiniol a thrawsabdomenol.
Mae Huntleigh Healthcare yn gwmni dyfeisiau meddygol sy'n datblygu, gweithgynhyrchu a chyflenwi dyfeisiau i asesu a thrin cyflyrau fasgwlaidd. Mae Huntleigh hefyd yn cynhyrchu systemau monitro cleifion wrth ochr y gwely.
Mae Heor yn gwmni ymgynghori annibynnol sy’n arbenigo mewn modelu economeg iechyd, ymchwil i ganlyniadau, dadansoddi ystadegol, mynediad i’r farchnad, a chyfleu gwerth.