Hardshell UK
Gwneuthurwr a chyflenwr offer amddiffyn a meddygol yw Hardshell. Mae’r cwmni’n darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) fel mygydau a menig, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau cynllunio mynediad i’r farchnad i gwmnïau fferyllol.
Gwneuthurwr a chyflenwr offer amddiffyn a meddygol yw Hardshell. Mae’r cwmni’n darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) fel mygydau a menig, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau cynllunio mynediad i’r farchnad i gwmnïau fferyllol.
Mae Great Bear Healthcare yn cynhyrchu cynnyrch ymataliaeth. Mae cynnyrch Great Bear yn cynnwys bagiau coes, bagiau nos untro a bagiau nos y gellir eu hailddefnyddio, sylwedd tynnu glud, weips sy’n creu mur, gweiniau, cathetrau sy’n aros yn eu lle, a bagiau draenio.
Mae Eakin Surgical yn wneuthurwr offer llawfeddygol untro. Mae’r cynhyrchion yn cynnwys gefel, bachau, tiwbiau ac offer sugno.
Mae Digital Health Labs yn ymgynghoriaeth ymchwil sy'n arbenigo mewn ffarmacoepidemioleg, economeg iechyd ac ymchwil ar ganlyniadau.
Mae Creo Medical yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n datblygu cynnyrch ar gyfer triniaethau endosgopi therapiwtig mewn clefydau gastroenteroleg. Mae cynhyrchion yn cynnwys ategolion endotherapi a llwyfannau uwch ar gyfer triniaethau endosgopig cymhleth.
Mae Corryn Biotechnologies yn datblygu HEALS, dyfais llaw i gynhyrchu a gosod rhwymyn ffibrog yn uniongyrchol ar glwyfau yn y man lle rhoddir gofal.
Mae Continuum Blue yn gwmni datblygu technoleg sy'n canolbwyntio ar efelychiadau cyfrifiadurol ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys ym maes meddygaeth a biotechnoleg. Mae efelychiadau’r cwmni wedi cael eu defnyddio i ddatblygu mewnblaniadau orthopedig ac i fodelu bioadweithyddion.
Mae Ceryx Medical yn gwmni bioelectroneg sy’n datblygu amrywiaeth o ddyfeisiau meddygol sy’n gallu rhyngweithio â chorff claf. Cynnyrch cyntaf y cwmni yw rheolydd calon sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer trin methiant y galon.
Mae Cardiff Scintigraphics yn ddarparwr gwasanaethau scintigraffeg gama i gwmnïau dyfeisiau fferyllol a meddygol, a ddefnyddir yn y gwerthusiadau clinigol o fformwleiddiadau a dyfeisiau fferyllol. Mae'r gwasanaethau a gynigir gan Cardiff Scintigraphics yn cynnwys dylunio, perfformio a dadansoddi astudiaethau scintigraffeg.
Mae Cardiff Healthcare Innovation (CHI) yn gwmni dylunio a datblygu ar gyfer prototeipio dyfeisiau meddygol ac ymchwil.