Hybrisan

Mae Hybrisan yn gwmni datblygu cynnyrch technoleg feddygol sydd wedi datblygu platfform WoundSan, sef datrysiad dyfrhau clwyfau sy’n amharu ar fioffilmiau sy’n ffurfio dros glwyfau cronig er mwyn gwella’r broses o wella ac atal haint.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

SymlConnect

Mae SymlConnect yn gwmni iechyd digidol o Abertawe sy'n datblygu meddalwedd ar gyfer cyfathrebu rhwng cleifion a chlinigwyr. Mae SymlConnect yn cynnig datrysiadau meddalwedd effeithlon ar gyfer gofal sylfaenol, gan gynnwys ymgysylltu a chyfathrebu o bell â chleifion, ymgynghoriadau all-lein ar y pwynt gofal, ac arolygon digidol SMART.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Springdew

Mae Springdew yn gwmni pecynnu o Abertawe, sy’n gwasanaethu marchnadoedd fferyllol, gofal iechyd, milfeddygol a dyfeisiau meddygol yn bennaf. Mae gan Springdew drwydded MHRA ar gyfer pecynnu eilaidd a chydosod meddyginiaethau dynol a milfeddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ProColl

Mae ProColl yn gwmni bioleg synthetig sy’n cynhyrchu colagen o wartheg a colagen heb fod o anifeiliaid, ar raddfa fawr. Defnyddir y colagen hwn mewn diwydiannau fel dyfeisiau meddygol, therapi celloedd a meddygaeth adfywiol, yn ogystal ag ym maes cynhyrchu bwyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Osteo Plus

Mae Osteo Plus yn gwmni dyfeisiau meddygol yn Abertawe. Mae Osteo Plus yn ffocysu ar weithgynhyrchu a chyflenwi modelau meddygol anatomegol i gynorthwyo llawfeddygon ym maes cynllunio cyn llawdriniaethau, yn ogystal â datblygu mewnblaniadau ar gyfer oncoleg orthopedig a llawfeddygaeth filfeddygol orthopedig. Mae Osteo hefyd yn cynhyrchu offer llawfeddygol wedi’u teilwra.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

My Mask Fit

Mae My Mask Fit yn gwmni dyfeisiau meddygol o Abertawe sy’n datblygu mygydau wyneb tryloyw P3 safonol sy’n cael eu creu drwy sganio wyneb cwsmer gyda chymhwysiad symudol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Medical Connections

Mae Medical Connections yn fusnes meddalwedd ac ymgynghori sydd wedi’i leoli yn Abertawe, sy’n cynnig pecynnau meddalwedd i ddatblygwyr technolegau delweddu meddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Kaydiar

Mae Kaydiar yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n datblygu ZeroSole, mewnwadn silicôn modiwlaidd sydd wedi’i ddylunio i leihau’r pwysau ar glwyfau traed a briwiau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Haemair

Mae Haemair yn ddatblygwr dyfeisiau meddygol sy'n canolbwyntio ar ofal gwaed a'r ysgyfaint. Mae’r cynhyrchion a ddatblygwyd gan Haemair yn cynnwys system Cynnal Bywyd allgorfforol, ocsigenydd gwaed cryno, pwmp gwaed curiadol haemolysis isel a dyfais ar gyfer trin cydafiacheddau Syndrom Trallod Resbiradol Aciwt ac Anaf Aciwt i’r Arennau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Haemaflow

Mae Haemoflow yn datblygu cynnyrch i gefnogi pobl sydd â chlefyd yr ysgyfaint neu ddifrod i'r ysgyfaint. Ar hyn o bryd, Haemair Ltd sy’n berchen yn llwyr ar Haemaflow, ond mae’n masnachu’n annibynnol. Mae cynnyrch Haemaflow yn cynnwys pwmp gwaed curiadol, dyfeisiau i wella trallwysiad gwaed, rheomedr pwynt gofal i asesu tuedd y gwaed i geulo a dadansoddwr di-gyswllt i bennu crynodiad rhywogaethau o fewn cymysgeddau nwy neu hylifau wedi’u hydoddi heb gymryd sampl.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: