GPC Systems

Mae GPC Systems yn gwmni meddalwedd 3D o Abertawe a gafodd ei sefydlu yn 2010. Mae GPC yn datblygu meddalwedd sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd, gan gynnwys rhaglen symudol i fesur maint clwyfau, ap i gynorthwyo ymarferwyr cyffredinol drwy ddarparu diagnosis posibl ac ap cyfathrebu cleifion-clinigwyr.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Energist

Mae Energist, sy’n is-gwmni Energist Medical Group, yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n dylunio, gweithgynhyrchu a marchnata NeoGen Plasma, technoleg plasma nitrogen ar gyfer y farchnad esthetig meddygol. Gellir defnyddio’r dechnoleg i drin cyflyrau ar y croen megis ceratosis a chreithiau acne.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

eHealth Digital Media

Mae eHealth Digital Media yn gwmni iechyd digidol sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’r cwmni wedi datblygu PocketMedic, cymhwysiad symudol sy’n cynnwys llyfrgell o ffilmiau i helpu cleifion i reoli eu cyflyrau iechyd. Mae ffilmiau ar gael ar gyfer ystod o afiechydon, gan gynnwys diabetes, lymffoedema, methiant y galon, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ymarfer corff gyda chlefyd yr ysgyfaint, poen cronig, gwella o ganser, lles, atal briwiau pwyso, a gofal diwedd oes.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

DTR Medical

Mae DTR Medical yn wneuthurwr dyfeisiau meddygol sy’n cynnig offer llawfeddygol untro. Mae'r cwmni'n cynnig cynnyrch ym meysydd gynaecoleg, niwrolawdriniaeth, offthalmeg, yr ên a’r wyneb, y glust, y trwyn a'r gwddf, llawfeddygaeth gyffredinol, ac orthopaedeg.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

CPR Global Tech

Mae CPR Global Tech yn gwmni digidol sydd wedi datblygu’r CPR Guardian, oriawr glyfar y gellir ei gwisgo sy’n gallu canfod a yw defnyddiwr wedi cwympo ac sy’n anfon SOS at ofalwyr neu aelodau o’r teulu.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

CanSense

Mae CanSense yn gwmni deillio o Brifysgol Abertawe sy'n datblygu prawf gwaed ar gyfer diagnosis anymwthiol o ganser y coluddyn gan ddefnyddio modelu sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Calon Cardio-Technology

Mae Calon Cardio yn gwmni dyfeisiau meddygol sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’r cwmni wedi datblygu Calon MiniVAD, pwmp gwaed bach mewnblanadwy ar gyfer trin cleifion sydd â methiant cronig uwch yn y galon, sydd ar hyn o bryd yn destun profion clinigol angenrheidiol at ddiben cymeradwyaeth reoleiddiol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Blue Sky Laser Technologies

Mae Blue Sky Laser Technologies yn gwmni o Abertawe sy’n arbenigo mewn cyflenwi technoleg laser. Mae Blue Sky yn cyflenwi peiriannau laser y gellir eu defnyddio’n glinigol i drin llid ar y croen.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Biovici

Mae Biovici yn datblygu dyfeisiau diagnostig Pwynt Gofal. Mae'r cwmni hefyd yn gwerthu sglodion Graphene y gellir eu defnyddio i gynhyrchu biosynwyryddion amser real a synwyryddion cemegol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

CellPath

Mae CellPath yn cynhyrchu ac yn cyflenwi cynnyrch histoleg, patholeg a seitoleg, gan gynnwys offer a deunyddiau traul. Yn 2022, prynwyd CellPath gan StatLab Medical Products yn UDA.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: