Fe wnaeth y cwmni technoleg byd-eang, Health.io, lansio ap arloesol ar gyfer gofal clwyfau yng Nghymru, gan ganiatáu i gleifion gael eu hasesu a’u monitro o gysur eu cartref eu hunain.
Cafodd y prosiect wyth mis, sy’n cael ei ddarparu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar draws Bae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ei ariannu gan Gronfa Atebion Digidol Llywodraeth Cymru, a gafodd ei gydlynu gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru.
Mae gwasanaethau gofal clwyfau’n cyfrif am swm sylweddol o gyllideb flynyddol GIG Cymru, gan gostio £330 miliwn, sef 6% o’i gyfanswm. Gall asesu clwyfau’n amhriodol hefyd arwain at ymweliadau dilynol ac apwyntiadau cleifion allanol diangen, gan achosi problemau capasiti ac oedi i gleifion sy’n derbyn gwasanaethau.
Dywedodd Kate Coombs, cyn-Bennaeth Cyflawni Rhaglenni Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Gall Rheoli Clwyfau'n Ddigidol helpu i wella profiad cleifion a chyfrannu at y driniaeth, gan weithio tuag at broses symlach a chyson ar gyfer staff clinigol a systemau gofal iechyd. Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi hwyluso’r gwaith o sefydlu’r peilot cyntaf o’r offeryn digidol arloesol hwn yng Nghymru sy’n cael ei redeg gan Health.io a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.”