Hidlyddion
Dod â fferylliaeth i’r Oes Ddigidol

Mewn tirwedd gofal iechyd sy'n esblygu'n barhaus, mae Fferyllfeydd Cymunedol wedi aros yn eu hunfan am ddau ddegawd. Fodd bynnag, mae’r galw am wasanaethau clinigol ochr yn ochr â’r gwaith traddodiadol o gyflenwi meddyginiaethau yn golygu bod rhaid newid y dull o weithredu.

Trydydd parti
Cydweithio i wella gofal llygaid i gleifion ledled Cymru

Drwy gyfuno gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd, a manteisio i’r eithaf ar y defnydd o ddatblygiadau digidol, mae cyfres o gynlluniau diwygio gofal llygaid dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP Caerdydd a’r Fro) yn helpu i leihau amseroedd aros a gwella canlyniadau i gleifion sydd â chyflyrau llygaid brys.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Ysbyty Rhith Cymru

Mae Cyflymu yn helpu sefydlu amgylchedd rhithwir ar-lein amlddisgyblaethol, a thraws-arbenigol, israddedig ac ôl-raddedig (Ysbyty Rhithwir Cymru

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Datblygu System Realiti Rhithiol Deallus Ffisiotherapi Trosolwg

Mae Accelerate yn cefnogi cyflwyno'r prosiect hwn trwy arbenigedd academaidd a chlinigol Prifysgol
Caerdydd, ochr yn ochr â darparu rheolaeth prosiect a chefnogaeth ar gyfer cyswllt ymchwil. Mae HexTransforma Healthcare yn cyfrannu eu harbenigedd diwydiannol mewn arloesi gofal iechyd digidol a byddant yn dod â'u profiad wrth ddatblygu atebion sy'n fasnachol hyfyw.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
System ‘Sleeping Lions’ ar gyfer rheoli straen a phryder mewn ystafelloedd dosbarth

Gwnaeth ATiC weithio â Gwylan UK, a leolir yn Sir Benfro, i werthuso a datblygu Sleeping Lions, cynnyrch sy’n ceisio helpu plant i reoli eu hiechyd meddwl a chorfforol. Caiff hyn ei gyflawni drwy berfformio ymarferion sy’n eu helpu i ddatblygu eu hymwybyddiaeth ofalgar, lleihau eu cyfradd anadlu, cysylltu â’u cyrff ac ymdawelu.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Defnyddio synwyryddion ffisiotherapi o bell i wella canlyniadau cleifion

Mae Denton RPA yn ddarparwr gwasanaeth ffisiotherapi o Gaerdydd sy’n defnyddio datrysiadau technoleg ddigidol i helpu i rymuso cleifion a chlinigwyr i gyflawni canlyniadau gwell. Gan ddefnyddio synwyryddion symudiad 3D re.flex, mae Denton RPA yn darparu profiad adsefydlu o bell unigryw ar gyfer cleifion ataliol, cyn ac ar ôl llawdriniaeth.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Connect Health yn cyflenwi cymorth ffisiotherapi digidol yn wyneb COVID-19

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) i gefnogi’r ymateb i COVID-19 yw’r Gronfa Atebion Digidol (DSF). Connect Health oedd y prosiect cyntaf i gael ei redeg. PhysioNow, yw’r offer hunan-asesu a brysbennu cyhyrysgerbydol digidol, a dreialwyd mewn dau Bwrdd Iechyd (Hywel Dda a Cwm Taf Morgannwg) yn ystod hydref 2020.

Geko™

Achosir clefydau thromboembolig gwythiennol (VTE) gan thrombws (clot gwaed) sy'n digwydd mewn gwythïen. Caiff cleifion eu hasesu ar gyfer eu risg VTE pan fyddant yn mynd i’r ysbyty.