Mae amrywiaeth wych o ddigwyddiadau ar gyfer arloeswyr o’r maes diwydiant a maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gael yng Nghymru a thu hwnt. Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i gael gwybod beth sy’n cael eu trefnu gennym ni a sefydliadau blaenllaw sy’n canolbwyntio ar wella iechyd, gofal a lles drwy arloesi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ychwanegu eich digwyddiad at ein rhestr, cysylltwch â hello@lshubwales.com.
Dros y ddau ddiwrnod, byddwch chi’n edrych ar themâu allweddol gan gynnwys aeddfedrwydd digidol, y gweithlu, data a dadansoddeg, ac arloesedd - sydd i gyd wedi'u hanelu at sbarduno newid go iawn ym maes iechyd a gofal.
Bydd y symposiwm yn denu gweithwyr o gyfadran MIT, arweinwyr y diwydiant a rhanddeiliaid y llywodraeth i edrych yn fanylach ar y technolegau sy’n sbarduno newid, a gweld sut gall unigolion, sefydliadau, a gwledydd ymateb i’r newid gyda bwriad a gwydnwch.
Ymunwch â 600 a mwy o arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghynhadledd ac Arddangosfa NICON25 i drafod sut gall y sector iechyd a gofal cymdeithasol geisio sefydlogi, arloesi a thrawsnewid ar gyfer y dyfodol.
Mae cyfres digwyddiadau Bionow BioIgnite yn uno diwydiant a’r byd academaidd â chyfleoedd i glywed am y datblygiadau arloesol diweddaraf, mentrau’r sector a rowndiau cyllido.
Ymunwch ar gyfer digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal gan Sefydliad TriTech, rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wrth i ni lansio Cynllun Strategol Ymchwil ac Arloesi’r Bwrdd Iechyd yn swyddogol.
Bydd Cynhadledd Biofilm Alliance yn dod â lleisiau blaenllaw o’r byd academaidd, diwydiant, a chyrff rheoleiddio at ei gilydd i archwilio’r rhyngwyneb sy’n esblygu rhwng ymchwil bioffilm arloesol a gwyddoniaeth reoleiddiol.
Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol (CGGC25) yw’r cyfle mwyaf blaenllaw i arddangos a rhwydweithio ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Wedi’i chynnal yn Riyadh, mae’r Arddangosfa Iechyd Byd-eang yn dod â dros 1,000 o gyflwynwyr byd-eang, dros 1,500 o arddangoswyr, a buddsoddwyr blaenllaw at ei gilydd.
Ymunwch â rhanddeiliaid o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol, busnes ac academia ar gyfer digwyddiad heb ei ail gyda Prif Swyddog Meddygol Cymru, Isabel Oliver.
Cymerwch ran yn y digwyddiad sydd wedi'i ddylunio i wneud pob cysylltiad yn ystyrlon, wedi'i dargedu ac wedi'i anelu at gyflawni datblygiadau arloesol ym maes biotechnoleg.
Ymunwch ar gyfer Sioe Deithiol Exploring MedTech Opportunities, cyfres o ddigwyddiadau dynamig sy’n arddangos y datblygiadau a’r cyfleoedd busnes diweddaraf yn yr Almaen, Awstria, a’r Swistir (rhanbarth DACH), marchnadoedd technoleg feddygol mwyaf dylanwadol Ewrop.
Bydd Cynhadledd Technoleg Iechyd y DU ABHI yn archwilio’r themâu pwysicaf sy’n dylanwadu ar ein diwydiant, gan ganolbwyntio ar fynediad i farchnad y DU a rheoleiddio.
Ydych chi’n gweithio ym maes ymchwil ac arloesi canser, neu’n darparu gofal iechyd yng Nghymru? Ydych chi’n frwd dros sicrhau bod lleisiau’r cleifion a’r cyhoedd yn ganolog i’ch gwaith?