Atebion digidol arloesol sy’n gwella dealltwriaeth glinigol llawdriniaeth robotig ar gael ar draws Byrddau Iechyd Cymru 26 Medi 2023 Bydd Versius Clinical Insights CMR Surgical yn casglu data o driniaethau llawfeddygol i ddarparu gwerthusiad manwl o berfformiad llawfeddyg. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliadau gofal iechyd cyntaf yn y byd i gael mynediad at yr adnodd arloesol hwn.
Cyfle cyllido NIHR ac OLS newydd i sbarduno datblygiad a mabwysiadu arloesedd hanfodol ym maes canser 26 Medi 2023 Rhaglen i4i NIHR a’r Swyddfa Gwyddorau Bywyd (OLS) yn cyhoeddi galwad cyllido newydd i gefnogi arloesedd wrth ganfod a rhoi diagnosis cynnar o ganser, triniaethau wedi’u targedu a dulliau gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
M-SParc yn mynd ag arloesi Cymreig #ArYLon i Lundain! 5 Medi 2023 Mae Cymru am ymweld a Llundain mis Medi eleni, i arddangos cenedl o arloeswyr, a rhoi cyfle i ddiwydiant rwydweithio ag ecosystem newydd.
Y Swyddfa Gwyddorau Bywyd yn lansio arolwg i asesu cyfraniadau Technoleg Iechyd yn y DU 3 Awst 2023 Mae’r Swyddfa Gwyddorau Bywyd yn lansio arolwg i werthuso gweithgareddau ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu effeithiol ar draws y Deyrnas Unedig.
Gwerthusiad cyntaf o ap asesu poen deallusrwydd artiffisial arloesol: nodi heriau a dathlu llwyddiannau 19 Mehefin 2023 Mae sawl cartref gofal ledled Cymru yn treialu ap asesu poen AI arloesol PainChek sy’n defnyddio technoleg dadansoddi wynebau a dangosyddion di-wyneb i asesu poen mewn pobl â galluoedd cyfathrebu cyfyngedig. Mae'r gwerthusiad cyntaf yn nodi heriau allweddol sy'n gerrig camu tuag at atebion newydd a gwella prosesau wrth baratoi ar gyfer eu cyflwyno ymhellach.
Halo Therapeutics yn sefydlu eu canolfan yng Nghymru i ddatblygu chwistrell trwyn arloesol ar gyfer y coronafeirws 8 Mehefin 2023 Mae Cymru yn lleoliad delfrydol ar gyfer datblygu a defnyddio arloesiadau gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda llawer o gwmnïau arloesol yn dewis cynnal busnes yma. Mae hyn yn cynnwys Halo Therapeutics sy’n dechrau treialon clinigol ar gyfer triniaeth therapiwtig chwistrell trwyn syml ar gyfer coronafeirysau.
Yr Academi Lledaenu a Graddfa yn dychwelyd i Gaerdydd fis Hydref hwn 8 Mehefin 2023 Mae’n bleser gan Sefydliad Calon y Ddraig gyhoeddi’r Academi Lledaenu a Graddfa sydd ar ddod, a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng 4ydd a 6 Hydref, 2023. Nod yr academi yw cefnogi timau gyda phrosiectau arloesol sy’n barod i ehangu a bod o fudd i gynifer o bobl â phosibl.
Agile Kinetic Limited yn sicrhau cyllid Innovate UK i chwyldroi dadansoddi symudiadau 23 Mai 2023 Mae consortiwm o dan arweiniad Agile Kinetic Limited yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn cyllid gan Innovate UK, asiantaeth arloesi y DU ar gyfer prosiect sy’n torri tir newydd o’r enw "Dadansoddi Symudiadau ar gyfer Meddygaeth Gyhyrysgerbydol Fanwl."
HIRANI yn cynnal yr Uwchgynhadledd Arloesedd Meddygol a Thechnoleg (MITS) 20 Mawrth 2023 Wedi’i threfnu gan Gynghrair Arloesi ac Ymchwil Iechyd Gogledd Iwerddon (HIRANI), mae’r Uwchgynhadledd Arloesedd a Thechnoleg Feddygol (MITS) yn gynhadledd undydd sy’n cael ei chynnal yn Belfast ar 19 Ebrill.
ABHI yn agor ceisiadau ar gyfer ei ymgyrch 'Cydnabod Arloesi Mewn Techiechyd' 25 Ionawr 2023 Mae prif Gymdeithas Masnach ym maes technoleg iechyd y DU, ABHI, yn galw ar gwmnïau ac unigolion TechIechyd, a sefydliadau’r GIG, i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer ymgyrch ‘Arloesi mewn TechIechyd: Cydnabod Rhagoriaeth’.