Dyfarnu cyllid hanfodol i dri chyflenwr system fferylliaeth gymunedol ddigidol arall i ddatblygu gwasanaeth rhagnodi electronig yng Nghymru 7 Medi 2023 Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF), a sefydlwyd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) yng Nghymru, wedi rhoi tri grant pellach i gyflenwyr system fferylliaeth gymunedol ddigidol, sy'n golygu bod pum sefydliad wedi elwa arni hyd yma.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymuno fel partner yn y rhaglen arloesol Cymru gyfan ar gyfer Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg 29 Awst 2023 Cyn hir, bydd robotiaid llawfeddygol arloesol yn helpu i drin cleifion canser y colon a'r rhefr a chanser gynaecolegol ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg fel rhan o’r Rhaglen Llawdriniaethau â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan.
Ysbrydoli Arloesedd - Rhifyn Awst 23 Awst 2023 Ysbrydoli Arloesedd yw ein casgliad misol o newyddion sy’n crynhoi tirwedd arloesi ffyniannus Cymru. Mae Tîm Gwybodaeth y Sector yn casglu’r cyfan gan ddod â’r datblygiadau diweddaraf i chi yn y sector gwyddorau bywyd ac effaith bosibl y datblygiadau hynny ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.
Edrych yn ôl ar bum mlynedd o arloesi, cydweithio ac uchelgais 27 Gorffennaf 2023 Mae hanner degawd wedi mynd heibio ers i ni drawsnewid ein sefydliad yn rhyngwyneb deinamig sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod arloesedd ym maes gwyddorau bywyd yn cael ei ddarparu ar y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol...
Gyrru Technoleg Ymgolli Ymlaen: Lansio Grŵp Diddordeb Arbennig 19 Gorffennaf 2023 Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dod at ei gilydd, ochr yn ochr ag eraill ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd, i fanteisio ar bŵer technoleg ymgolli a gwthio arloesi i’r rheng flaen.
Cael ysbrydoliaeth gan Expo EBME 2023 13 Gorffennaf 2023 Ar 28 – 29 Medi, aethom i arddangos yn Expo EBME yn Coventry. Gwych oedd gweld yr amrywiaeth enfawr o Dechnoleg Feddygol arloesol dros y ddau ddiwrnod, i’n hatgoffa o sector gwyddorau bywyd cryf y DU.
Dyfodol Gofal Iechyd Cynaliadwy: Cydbwyso Cleifion a’r Blaned 3 Gorffennaf 2023 Yn ein blog gwadd diweddaraf, Bob McClean, Prif Swyddog Masnachol, Kinsetsu, sy’n rhannu sut gall gwneud arbedion ariannol mewn gofal iechyd drwy ddefnyddio technolegau fel y Rhyngrwyd Pethau ysgogi arbedion effeithlonrwydd amgylcheddol hefyd.
Beth wnaethon ni ddysgu yn ConfedExpo y GIG 2023? 23 Mehefin 2023 Unwaith eto, roedd ConfedExpo y GIG yn ddigwyddiad anhygoel eleni! Fe wnaethon ni fwynhau gwneud cysylltiadau â phartneriaid o’r un anian â ni yn fawr iawn a thrwytho ein hunain mewn ystod amrywiol o drafodaethau ysbrydoledig a chraff ar hyrwyddo canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r blog hwn yn bwrw golwg ar y prif uchafbwyntiau a’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiad gwych.
Rhanddeiliaid allweddol yn rhannu barn am raglen genedlaethol arloesol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru 23 Mehefin 2023 A wnaethoch chi fynychu digwyddiad panel ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, a gynhaliwyd yn ConfedExpo y GIG a oedd yn archwilio’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru? Rhag ofn i chi golli’r sesiwn, dyma grynodeb o’r prif bwyntiau trafod a’r wybodaeth allweddol am y rhaglen...
Awydd gwella’r cymorth y mae cwmnïau technoleg iechyd yn ei gael gan brifysgolion? 9 Mehefin 2023 Fel rhan o’n gwaith datblygu, hoffem i fusnesau ar draws y sector gwyddorau bywyd - o Gymru a gweddill y DU - lenwi holiadur ar-lein a chymryd rhan mewn cyfweliad dros y ffôn.