Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad ysbrydoledig yn y Senedd ar y cysurwr therapiwtig HUG by LAUGH. Roedd y digwyddiad yn edrych ar sut mae’r dechnoleg gynorthwyol hon yn trawsnewid llesiant pobl â dementia a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â chefnogi pobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sector gofal cymdeithasol a’r GIG.