Mae’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol wedi cyhoeddi ei Adolygiad Blynyddol cyntaf i ddangos sut mae’n defnyddio arloesedd digidol a chydweithio i wneud y broses o ragnodi, dosbarthu a rheoli mynediad at feddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

Dau safle yn y Rhyl ydy’r cyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig newydd yng Nghymru. Mae hyn wedi cael ei gefnogi’n ariannol gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol – sydd wedi cael ei greu a’i reoli gan ein sefydliad ni mewn partneriaeth â Phortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol (DMTP), sydd wedi darparu grantiau i gyflenwyr systemau fferyllol.

Daeth yr Arddangosfa Arloesedd mewn Dementia, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â CAV Shaping Change, â meddyliau creadigol a datblygiadau arloesol ynghyd i ddangos sut y gallwn ni wella bywydau cleifion dementia. Darllenwch ymlaen i gael crynodeb o rai o’r datblygiadau arloesol gan sefydliadau craff a oedd yn bresennol, gyda phob un wedi’i ddylunio i ddod â chysur, cysylltiad ac annibyniaeth i’r rheini sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr.