Dr Chris Martin OBE DL MStJ FRCPharm DLitt
Chris yw Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth o gyflawni newid gwirioneddol ac o gefnogi arloesedd drwy gyfrwng ei rolau fel uwch-arweinydd ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus, y sector elusennol a’r sector gwirfoddol.
Fel Fferyllydd cymwysedig, dechreuodd siwrnai Chris gyda gradd anrhydedd mewn Fferylliaeth o Brifysgol Caerdydd. Yna aeth ymlaen i sefydlu dwy fferyllfa gymunedol annibynnol yn Sir Benfro.
Mae ganddo ddealltwriaeth ddofn o ofal iechyd yng Nghymru, ar ôl cadeirio pedwar sefydliad iechyd gwahanol dros ddau ddegawd. Roedd y rhain yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ochr yn ochr â Chydffederasiwn GIG Cymru a bu’n Gadeirydd cydlynu dros yr holl sefydliadau iechyd yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Chris yn cynghori Cencora-Alliance Healthcare UK ac mae’n Gomisiynydd Bevan Anrhydeddus. Ef yw cadeirydd dros dro y Porthladd Rhydd Celtaidd ac mae’n aelod o Gyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan gadeirio’r Pwyllgor Adnoddau a Pherfformiad. Mae ei frwdfrydedd dros ei broffesiwn a’i ymchwil wedi ei arwain i fod yn Gadeirydd Fferylliaeth: Grŵp Cyflawni Cymru Iachach, ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Sicrwydd Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol ac Atal Llywodraeth Cymru ynghyd â bod yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Llywodraeth Cymru, Bwrdd Sicrwydd Grŵp OE a Bwrdd Sicrwydd Grŵp CGU. Mae yn Gadeirydd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Pwll Nofio Hwlffordd ac yn Gadeirydd/Is-lywydd ar Gyngor Sant Ioan Dyfed.
Mae wedi cael ei gydnabod drwy gael cymrodoriaeth gan y Coleg Brenhinol Fferylliaeth a Doethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe am ei gyfraniadau hanfodol i fferylliaeth gymunedol a bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n Ddirprwy Raglaw Dyfed ac yn aelod o Banel Dyfarnu Gwobr y Brenin am Fenter (Cynaliadwyedd). Yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2025, dyfarnwyd Urdd Fwyaf Rhagorol yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) iddo am wasanaeth nodedig i’r sector Morol a Phorthladdoedd ar ôl bod yn Gadeirydd Porthladd Aberdaugleddau am 12 mlynedd. Cafodd ei dderbyn hefyd yn aelod o Urdd Fwyaf Hybarch Ysbyty Sant Ioan Jerwsalem, Priordy Cymru ym mis Chwefror 2025.