Rydym yn falch o greu partneriaeth â The New Scientist a healthawareness.co.uk fel rhan o’u hymgyrch genedlaethol ‘Arloesi mewn Gofal Canser’. Mae ein Prif Weithredwr, Cari-Anne Quinn, wedi ysgrifennu colofn fel rhan o’r ymgyrch sy’n canolbwyntio ar ofal canser yng Nghymru, y datblygiadau, a’r uchelgais i wella cyfraddau goroesi ar draws y wlad.