Dau safle yn y Rhyl ydy’r cyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig newydd yng Nghymru. Mae hyn wedi cael ei gefnogi’n ariannol gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol – sydd wedi cael ei greu a’i reoli gan ein sefydliad ni mewn partneriaeth â Phortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol (DMTP), sydd wedi darparu grantiau i gyflenwyr systemau fferyllol.