Arweinwyr blaenllaw ym maes gofal iechyd a thechnoleg yn ymuno â Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 19 Medi 2023 Mae Peter Bannister, Malcolm Lowe-Lauri a Neil Mesher yn dod â’u harbenigedd eithriadol a’u gweledigaeth strategol i helpu i lunio dyfodol arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd cleifion yn cael mynediad cyflymach at dechnolegau meddygol arloesol trwy lwybr newydd 19 Medi 2023 Mae gan yr IDAP y potensial i hwyluso mynediad cleifion y DU at dechnolegau arloesol, trwy ddarparu adolygiad cyfun gan y llywodraeth i arloeswyr a gweithgynhyrchwyr, a chyngor gwyddonol wedi'i dar
Dyfarnu cyllid hanfodol i dri chyflenwr system fferylliaeth gymunedol ddigidol arall i ddatblygu gwasanaeth rhagnodi electronig yng Nghymru 7 Medi 2023 Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF), a sefydlwyd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) yng Nghymru, wedi rhoi tri grant pellach i gyflenwyr system fferylliaeth gymunedol ddigidol, sy'n golygu bod pum sefydliad wedi elwa arni hyd yma.
Mae modd cyflwyno ceisiadau nawr ar gyfer Gwobrau Arloesi blynyddol MediWales 2023 7 Medi 2023 Bydd MediWales yn dathlu cryfder y dirwedd arloesi yng Nghymru yn ei ddeunawfed Gwobrau Arloesi blynyddol nos Iau 7fed Rhagfyr 2023, yng Nghaerdydd. Gwnewch gais heddiw i dynnu sylw at effaith eich sefydliad!
Beth wnaethon ni ddysgu yn y Symposiwm Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch? 3 Gorffennaf 2023 Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gynnal y Symposiwm Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, lle archwiliwyd sut gall y GIG helpu i siapio’r broses o gyflwyno'r therapiwteg hyn yng Nghymru. Darllenwch grynodeb o’r sgyrsiau diddorol a gyflwynwyd yn ystod y dydd gan y bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau.
Dyfodol Gofal Iechyd Cynaliadwy: Cydbwyso Cleifion a’r Blaned 3 Gorffennaf 2023 Yn ein blog gwadd diweddaraf, Bob McClean, Prif Swyddog Masnachol, Kinsetsu, sy’n rhannu sut gall gwneud arbedion ariannol mewn gofal iechyd drwy ddefnyddio technolegau fel y Rhyngrwyd Pethau ysgogi arbedion effeithlonrwydd amgylcheddol hefyd.
Beth wnaethon ni ddysgu yn ConfedExpo y GIG 2023? 23 Mehefin 2023 Unwaith eto, roedd ConfedExpo y GIG yn ddigwyddiad anhygoel eleni! Fe wnaethon ni fwynhau gwneud cysylltiadau â phartneriaid o’r un anian â ni yn fawr iawn a thrwytho ein hunain mewn ystod amrywiol o drafodaethau ysbrydoledig a chraff ar hyrwyddo canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r blog hwn yn bwrw golwg ar y prif uchafbwyntiau a’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiad gwych.
Rhanddeiliaid allweddol yn rhannu barn am raglen genedlaethol arloesol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru 23 Mehefin 2023 A wnaethoch chi fynychu digwyddiad panel ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, a gynhaliwyd yn ConfedExpo y GIG a oedd yn archwilio’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru? Rhag ofn i chi golli’r sesiwn, dyma grynodeb o’r prif bwyntiau trafod a’r wybodaeth allweddol am y rhaglen...
Halo Therapeutics yn sefydlu eu canolfan yng Nghymru i ddatblygu chwistrell trwyn arloesol ar gyfer y coronafeirws 8 Mehefin 2023 Mae Cymru yn lleoliad delfrydol ar gyfer datblygu a defnyddio arloesiadau gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda llawer o gwmnïau arloesol yn dewis cynnal busnes yma. Mae hyn yn cynnwys Halo Therapeutics sy’n dechrau treialon clinigol ar gyfer triniaeth therapiwtig chwistrell trwyn syml ar gyfer coronafeirysau.
Yr Academi Lledaenu a Graddfa yn dychwelyd i Gaerdydd fis Hydref hwn 8 Mehefin 2023 Mae’n bleser gan Sefydliad Calon y Ddraig gyhoeddi’r Academi Lledaenu a Graddfa sydd ar ddod, a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng 4ydd a 6 Hydref, 2023. Nod yr academi yw cefnogi timau gyda phrosiectau arloesol sy’n barod i ehangu a bod o fudd i gynifer o bobl â phosibl.