Dr Chris Martin OBE MStJ DL FRPharmS DLitt

Cadeirydd
Dr Chris Martin, Cadeirydd

Chris yw Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae ganddo brofiad helaeth o gyflawni newid trawsnewidiol ac o gefnogi arloesedd drwy gyfrwng ei rolau fel uwch-arweinydd ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus, y sector elusennol a’r sector gwirfoddol.

Fel Fferyllydd cymwysedig, dechreuodd siwrnai Chris gyda gradd anrhydedd mewn Fferylliaeth o Brifysgol Caerdydd. Aeth ymlaen wedyn i sefydlu dwy fferyllfa gymunedol annibynnol yng Ngorllewin Lloegr a chyda'i wraig yn Sir Benfro (Tyddewi, Aberdaugleddau a Neyland).

Mae ganddo ddealltwriaeth ddofn o ofal iechyd yng Nghymru, ar ôl cadeirio pedwar sefydliad iechyd gwahanol dros ddau ddegawd. Roedd y rhain yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ochr yn ochr â Chydffederasiwn GIG Cymru a bu’n Gadeirydd cydlynu dros yr holl sefydliadau iechyd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae Chris yn cynghori Alliance Healthcare Distribution UK Ltd ac mae'n Gomisiynydd Bevan cyfatebol. Mae ei frwdfrydedd dros ei broffesiwn a'i ymchwil wedi arwain at fod yn Gadeirydd y Grŵp Cyflawni Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach, ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Pwll Nofio Hwlffordd ac yn Gadeirydd/Is-lywydd ar Gyngor Sant Ioan Dyfed.

Mae wedi cael ei gydnabod drwy gael cymrodoriaeth gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr a Doethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe am ei gyfraniadau hanfodol i fferylliaeth gymunedol a bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Yn ddiweddar, daeth yn Ddirprwy Raglaw Dyfed ac ymunodd â Phanel Dyfarnu Gwobr y Brenin am Fenter (Datblygu Cynaliadwyedd). Yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin yn 2025, dyfarnwyd Urdd Fwyaf Rhagorol yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) iddo am wasanaeth nodedig i'r sector Morol a Phorthladdoedd, ar ôl bod yn Gadeirydd Porthladd Aberdaugleddau am 12 mlynedd. Cafodd ei dderbyn hefyd yn aelod o Urdd Fwyaf Hybarch Ysbyty Sant Ioan Jerwsalem, Priordy Cymru, ym mis Chwefror 2025.