Gyrru Technoleg Ymgolli Ymlaen: Lansio Grŵp Diddordeb Arbennig 19 Gorffennaf 2023 Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dod at ei gilydd, ochr yn ochr ag eraill ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd, i fanteisio ar bŵer technoleg ymgolli a gwthio arloesi i’r rheng flaen.
Digwyddiad Data Mawr 21 Chwefror 2023 Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a’r Adnodd Data Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad Data Mawr ar 29 Mawrth 2023 yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Archwilio Monitro o Bell ym mis Mawrth 2023 6 Chwefror 2023 Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag M-SParc ar gyfer Digwyddiad Monitro o Bell unigryw ar 16 Mawrth!
Lansio cynllun peilot monitro o bell i gynorthwyo cleifion iechyd meddwl yng Nghymru 6 Ebrill 2022 Mae cynllun peilot chwe mis ar y gweill i ddefnyddio monitro o bell ar gyfer cleifion iechyd meddwl ar draws dau gartref gofal yn Abertawe, Hengoed Park a Hengoed Court.
Lansio technoleg gofal clwyfau arloesol i drawsnewid profiad cleifion yng Nghymru 17 Tachwedd 2021 Mae’r cwmni technoleg byd-eang, Healthy.io, wedi lansio ap arloesol ar gyfer gofal clwyfau yng Nghymru, gan ganiatáu i gleifion gael eu hasesu a’u monitro o gysur eu cartref eu hunain.
Lansio Cynllun Peilot ar gyfer Monitro Cleifion Cardiaidd o Bell yng Nghymru 19 Awst 2021 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymuno â Huma i dreialu’r gwaith o fonitro o bell cleifion sydd â phroblemau cardiaidd (methiant y galon) a hynny ar draws Cymru drwy ap yn eu cartrefi eu hunain.
Tynnu sylw at arloesi digidol ym maes gofal iechyd yn MediWales Connects 29 Mawrth 2021 Mae’n bleser gan EIDC gefnogi cynhadledd MediWales Connects sydd ar y gweill. Cynhelir y digwyddiad ar-lein rhwng 29 Mawrth a 1 Ebrill 2021, a bydd yn dod â chydweithwyr y GIG o bob cwr o Gymru, cwmnïau lleol a’r sector diwydiant ehangach at ei gilydd i edrych ar yr arferion gorau ar gyfer arloesi clinigol.
Cyngres Iechyd a Gofal Digidol 2019 24 Mai 2019 Ar 22 a 23 Mai 2019, bu tîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn arddangos yn y Gyngres Iechyd a Gofal Digidol yn y King’s Fund yn Llundain. Mae'r digwyddiad yn dod â gweithwyr proffesiynol allweddol o’r GIG a’r maes gofal cymdeithasol ynghyd i drafod sut gall data a thechnoleg wella iechyd a lles cleifion, ac ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau.
Ecosystem Iechyd Digidol Cymru i gynnal digwyddiad Gaeaf ar data ac API 3 Rhagfyr 2018 Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad dros y Gaeaf ddydd Mercher 5 Rhagfyr yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bae Caerdydd.
Arloesedd Digidol yn ymarferol 20 Tachwedd 2018 Fe wnaeth tua 300 o gynrychiolwyr o'r gwasanaethau iechyd, gofal a diwydiant yn dod at ei gilydd ar gyfer ail gynhadledd Iechyd a Gofal Digidol Cymru 2018, 'Cyflymu Newid Digidol.'