Dewiswyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Prifysgol Abertawe a Gofal Cymdeithasol Cymru fel un o bum Labordy Data Rhwydweithio ‘The Health Foundation’. Byddant yn derbyn hyd at £400,000 dros ddwy flynedd i ffurfio cymuned o ddadansoddwyr sy'n gweithio ar yr heriau iechyd a gofal mwyaf.