Labco
Mae Labco yn gweithgynhyrchu ffiolau gwydr wedi'u capio â sgriwiau sy'n cael eu defnyddio mewn protocolau profi labordy, gan gynnwys ar gyfer profi samplau o nwyon a hylifau ym maes gofal iechyd.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd, a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Diweddarwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2026
Mae Labco yn gweithgynhyrchu ffiolau gwydr wedi'u capio â sgriwiau sy'n cael eu defnyddio mewn protocolau profi labordy, gan gynnwys ar gyfer profi samplau o nwyon a hylifau ym maes gofal iechyd.
Mae SMTL yn rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) ac mae’n darparu ystod o wasanaethau profi dyfeisiau meddygol a biolegol i GIG Cymru i helpu gyda chaffael.
Mae Laennec AI wedi datblygu stethosgop digidol wedi'i bweru gan AI ac ap ategol y gellir ei ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol neu gan gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r stethosgop yn gallu dadansoddi canlyniadau’r stethosgop, a allai arwain at ddiagnosis cynharach o gyflyrau’r galon.
Mae Laser Micromachining yn darparu gwasanaethau gweithgynhyrchu i amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys y sector meddygol a gwyddorau bywyd. Mae technoleg y cwmni wedi cael ei defnyddio mewn dyfeisiau meddygol ac offer Biotechnoleg.
Mae Leanvation yn cynhyrchu menig llawfeddygol latecs a di-latecs.
Mae Learna yn ddarparwr diplomâu ôl-raddedig gofal iechyd, cyrsiau Meistr ac MBA ar-lein. Mae Learna wedi'i leoli yng Nghaerdydd, ac yn cyflwyno eu rhaglenni ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Buckingham.
Mae LibaMed yn blatfform iechyd digidol o Gaerdydd sy’n cefnogi cleifion yn y DU sy’n chwilio am driniaeth arbenigol neu ail farn dramor. Mae’r claf yn cychwyn y broses; mae ei glinigydd yn y DU yn cefnogi’r broses drwy drosglwyddo cofnodion, tynnu sylw at bryderon diogelwch a chynllunio camau dilynol, heb atgyfeirio na chymeradwyo’r dewis. Mae LibaMed yn cysylltu’r cleifion ag ysbytai rhyngwladol achrededig, sydd yn Israel, y Swistir a Thwrci ar hyn o bryd, ac yn cydlynu’r cydsyniad, y cofnodion a’r ôl-ofal. Mae triniaethau sydd ar gael fel mater o drefn ar y GIG yn cael eu sgrinio allan, felly mae’r gwasanaeth yn eistedd ochr yn ochr â llwybrau’r GIG yn hytrach nag yn eu hosgoi. Mae’r platfform ar gam cyn ei lansio ac mae wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ZC220043).
Mae LimestoneGrey yn ymgynghoriaeth arbenigol ym maes credyd treth ymchwil a datblygu, sy'n gweithio'n agos gyda chwmnïau gwyddorau bywyd, technoleg feddygol a biotechnoleg ledled y DU, gan feithrin perthnasoedd cryf a darparu dull personol, wedi'i deilwra o lywio drwy ryddhad treth ar gyfer ymchwil a datblygu. Fel ymgynghoriaeth hynod brofiadol sy'n cael ei rheoleiddio'n llawn, rydym yn cyfuno arbenigedd technegol â dealltwriaeth ddofn o'r dirwedd ymchwil a datblygu, gan sicrhau bod pob hawliad yn gadarn ac yn cydymffurfio.
Mae Lion Laboratories yn gwmni yn y Barri sy’n arbenigo ym maes dadansoddi alcohol mewn anadl. Mae Lion Laboratories yn creu cynhyrchion sy’n cael eu defnyddio mewn practis cyffredinol, i drin alcoholiaeth a damweiniau ac achosion brys, at nifer o ddibenion, gan gynnwys rhoi diagnosis gwahaniaethol o goma, monitro coma ac anafiadau i’r pen, ymchwilio i achosion damweiniau ac osgoi rhyngweithiadau cyffuriau-alcohol a allai fod yn beryglus.
Mae Llesiant Delta Wellbeing wedi datblygu Delta CONNECT, gwasanaeth teleofal a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei gynnig ar draws maes gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r llwyfan yn cynnwys gwasanaethau fel asesiad llesiant, cymorth llesiant, pecynnau cymorth gofal wedi’u hwyluso gan dechnoleg (TEC) a gwasanaeth ymateb cymunedol.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.