M-Sparc
Gan agor yn 2018, M-Sparc yw parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru. Mae’r parc yn darparu lle i egin fusnesau a chorfforaethau mawr, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth busnes fel Cymorth Arloesi a Masnacheiddio.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd,l a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Gan agor yn 2018, M-Sparc yw parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru. Mae’r parc yn darparu lle i egin fusnesau a chorfforaethau mawr, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth busnes fel Cymorth Arloesi a Masnacheiddio.
Mae Magpie Concept yn asiantaeth Cyfathrebu Meddygol sy’n arbenigo yn y diwydiant fferyllol. Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu llwyfannau ar-lein y gellir eu cynnig i gwmnïau i rannu cynnwys meddygol a chasglu adborth.
Mae Magstim yn datblygu ac yn gweithgynhyrchu cynnyrch niwroysgogi uwch ar gyfer trin anhwylderau nerfol ac anhwylderau’r ymennydd, e.e. anhwylder iselder difrifol (MDD). Mae portffolio cynnyrch y cwmni yn cynnwys cynhyrchion niwromodwleiddio, gan gynnwys ysgogyddion magnetig trawsgreuanol (TMS), coiliau ysgogi magnetig, ac ategolion fel cap cleifion.
Elusen yn y DU yw Marie Curie sy'n
ymroddedig i ofalu am bobl â salwch angheuol, drwy ddarparu gofal arbenigol ar gyfer y rhai â salwch angheuol, helpu a chefnogi teuluoedd a gofalwyr y rhai â salwch angheuol, ymchwilio i’r ffyrdd gorau o ofalu am y rhai â salwch angheuol, ac ymgyrchu dros y rhai â salwch angheuol i allu marw yn eu dewis le.
Mae Mariposa Therapeutics yn gwmni deillio o Neem Biotech sy'n canolbwyntio ar ddatblygu therapïau ar gyfer clefydau sy'n gysylltiedig â ceratin. Yn dilyn astudiaethau cyn-glinigol, mae Mariposa yn datblygu rhaglen arweiniol i fynd i dreialon clinigol i drin Epidermolysis bullosa simplex.
Mae Markes yn wneuthurwr offer sbectrometreg cromatograffaeth nwy y gellir eu defnyddio mewn labordai amgylcheddol, bwyd a chlinigol.
Mae Maruthi Quality Management Services yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ddatblygwyr Dyfeisiau Meddygol, gan gynnwys cyngor rheoleiddio, Gweithredu System Rheoli Ansawdd a chyngor ar Eiddo Deallusol.
Mae MC Diagnostics yn gwmni diagnosteg moleciwlau sydd wedi datblygu a gweithgynhyrchu llwyfan arae dwysedd isel awtomataidd (ALDAS) sydd, ar hyn o bryd, yn darparu profion diagnostig clinigol wedi’u profi ym meysydd diagnosteg grwpiau gwaed a pharu HLA. Yn ogystal, datblygodd y cwmni brawf PCR i ganfod COVID-19, ac mae’n cynnig gwasanaethau dylunio a gweithgynhyrchu ar gyfer cynhyrchion diagnostig.
Mae Medi2data yn gwmni iechyd digidol o Gaerdydd. Mae’r cwmni wedi datblygu pecynnau meddalwedd sy’n integreiddio â chofnodion meddygol electronig a ddefnyddir mewn meddygfeydd meddygon teulu i gynhyrchu adroddiadau meddygol.
Mae Medical and Education Academy yn ddarparwr addysg ym maes datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae'n cynnig cyrsiau dysgu o bell i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym maes uwchsain, meddygaeth atgenhedlol a llawfeddygaeth gymhwysol.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.