Neuromind Biopharma
Mae Neuromind Biopharma yn gwmni fferyllol sy’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu triniaethau iechyd meddwl newydd ar gyfer iselder sy’n gwrthsefyll triniaeth.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd, a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Diweddarwyd ddiwethaf: Tachwedd 2025
Mae Neuromind Biopharma yn gwmni fferyllol sy’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu triniaethau iechyd meddwl newydd ar gyfer iselder sy’n gwrthsefyll triniaeth.
Mae Neurosign yn cyflenwi chwiliedyddion monitro nerfau yn ystod llawdriniaeth, offer ac electrodau ar gyfer cadwraeth ac adnabod nerfau yn ystod llawdriniaethau’r pen a’r gwddf.
Mae Niagara Healthcare yn cyflenwi cynnyrch gofal iechyd arbenigol i'r GIG, yn ogystal â gweithgynhyrchu a gwerthu dodrefn symudedd domestig i ddefnyddwyr a gweithgynhyrchwyr cynnyrch gofal iechyd ar gyfer cymwysiadau chwaraeon a milfeddygol.
Mae Nordic Care yn cyflenwi cynnyrch gofal iechyd, gan gynnwys datrysiadau ar gyfer gofal briwiau pwyso, symud, trin a thrafod, lleoli, gofal gan unigolyn a gofal ystafell ymolchi. Mae Nordic yn darparu’r datrysiadau hyn i’r GIG, Awdurdodau Lleol, Gofalwyr ac Unigolion.
Mae Norgine yn datblygu, yn gweithgynhyrchu ac yn masnacheiddio dyfeisiau meddygol a chynnyrch fferyllol arbenigol. Mae portffolio cynnyrch y cwmni yn cynnwys dyfeisiau a chyffuriau wedi'u brandio ym meysydd gastroenteroleg, hepatoleg, a chanser a gofal cefnogol. Mae pencadlys Norgine yn yr Iseldiroedd. Mae Norgine UK wedi’i leoli yn Nhir-y-berth.
Mae Nova Bioelectrics yn gwmni dylunio sy'n arbenigo mewn helpu cwmnïau i ddylunio a chreu cynnyrch dyfeisiau meddygol ym maes niwrowyddoniaeth. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan Nova yn cynnwys dylunio, datblygu, prototeipio a phrofi cynnyrch.
Mae NPL Medical Services yn darparu gwasanaethau gosod, cynnal a chadw ac atgyweirio offer meddygol i’r GIG.
Mae Nu Instruments o Wrecsam yn ddylunydd ac yn wneuthurwr sbectromedrau mas perfformiad uchel, i'w defnyddio ym maes gwyddorau ffisegol a bywyd, gan gynnwys delweddu biofeddygol.
Mae Nûr Dental Lab yn labordy Orthodonteg Prosthetig a Symudol sy’n cynhyrchu dannedd gosod, laminiadau ac offer diogelwch chwaraeon.
Mae Omics Hub Wales yn labordy profi contractau sy'n darparu gwasanaethau dadansoddi ar gyfer ymchwil proteomeg. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys adnabod protein gan ddefnyddio sbectrometreg más, mapio proteomau, ac electrofforesis gel.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.