Prifysgol Abertawe
Mae tua 20,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol Abertawe, ac mae’n gartref i dri chyfadran; y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol; Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd; Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae’r gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd yn gartref i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dangosodd Abertawe gryfder penodol mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio ac Ymchwil Fferylliaeth.