Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS)
Mae Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe yn gartref i labordai ymchwil a chyfleusterau deori busnes ar gyfer sefydliadau masnachol.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd,l a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Mae Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe yn gartref i labordai ymchwil a chyfleusterau deori busnes ar gyfer sefydliadau masnachol.
Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn gweithio
i hybu iechyd meddwl da a gwella bywydau pobl sydd wedi'u heffeithio gan broblemau iechyd meddwl. Gydag atal wrth wraidd ei genhadaeth, nod y sefydliad yw dod o hyd i ffynonellau problemau iechyd meddwl a mynd i’r afael â nhw fel y gall pobl a chymunedau ffynnu.
Mae Sefydliad Moondance yn
dyrannu arian i sefydliadau at ddibenion elusennol cyffredinol, gan gynnwys elusennau eraill, grwpiau cymunedol a gyfansoddwyd, mentrau cymdeithasol, Sefydliadau Budd Cymunedol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a sefydliadau dielw, gyda gogwydd tuag at sefydliadau Cymreig. Mae'r sefydliad yn canolbwyntio rhoddion yn y meysydd allweddol canlynol; gofal am salwch/afiechydon niweidiol, plant, addysg, yr henoed, yr amgylchedd a thlodi.
Mae SERB Pharmaceuticals (BTG gynt) yn gwmni fferyllol sy’n datblygu cyffuriau ar gyfer gofal brys a chlefydau prin. Prynodd SERB gwmni BTG Specialty Pharmaceuticals yn 2021, a oedd â phortffolio o feddyginiaethau gofal brys, gan gynnwys gwrthwenwynau a ddatblygwyd gan Protherics, cwmni a brynwyd gan BTG yn 2008. Mae gan Protherics gyfleuster gweithgynhyrchu yn Llandysul.
Mae SETsquared yn bartneriaeth rhwng prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Southampton a Surrey. Mae’r bartneriaeth yn cynnig amrywiaeth o raglenni cymorth busnes sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr, ymchwilwyr academaidd, sylfaenwyr cwmnïau technoleg a busnesau bach a chanolig.
Sefydliad Gweithgynhyrchu Datblygu Contractau yw SGS Quay Pharma sy’n darparu gwasanaethau i gwmnïau biotechnoleg a fferyllol, gan gynnwys datblygu fformiwleiddiad, gweithgynhyrchu clinigol a gwasanaethau dadansoddi. Mae gan y cwmni ddau safle yng Nglannau Dyfrdwy.
Mae Sharp Clinical Services yn gyflenwr gwasanaethau pecynnu, labelu a dosbarthu treialon clinigol ar gyfer cwmnïau fferyllol a biotechnoleg o dreialon cam 1 hyd at lansiad masnachol. Mae gwasanaethau’r cwmni’n cynnwys gwasanaethau dadansoddi a fformiwleiddio, gweithgynhyrchu contractau, pecynnu sylfaenol ac eilaidd, storio a dosbarthu.
Mae Siemens Healthineers, is-gwmni Siemens AG, yn gwmni technoleg feddygol sy’n dylunio, datblygu, cynhyrchu a dosbarthu systemau delweddu diagnostig a therapiwtig, diagnosteg labordy a thechnolegau meddygaeth foleciwlaidd, yn ogystal â darparu gwasanaethau mentergarwch a digidol. Mae pencadlys Siemens Healthineers yn yr Almaen, ac mae ganddynt safle yn Llanberis, lle maen nhw’n gweithgynhyrchu adweithyddion IMMULITE, a ddefnyddir mewn profion imiwnedd gwaed IMMULITE i wneud diagnosis o ystod eang o glefydau.
Mae Sight Cymru yn darparu gwasanaethau i
liniaru effeithiau colled synhwyraidd ar bobl yng Nghymru, gan gynnwys cymorth Clinig Llygaid ac Adsefydlu ar gyfer Pobl â Nam ar y Golwg, cwnsela, cymorth emosiynol, cyfeillio, gweithgareddau, llinell gymorth dros y ffôn, gweithgareddau cymdeithasol, hyfforddiant a chanolfan adnoddau cynhwysfawr sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth. Mae'r elusen hefyd yn annog strategaethau ataliol i osgoi dallineb.
Mae Signumology yn gwmni meddalwedd sydd wedi datblygu Mydoc4health, platfform brysbennu ar-lein a rheoli llif cleifion sydd wedi’i deilwra ar gyfer cyflyrau meddygol gwahanol. Gellir defnyddio'r feddalwedd i fonitro cleifion o bell gan ddefnyddio modiwlau telefeddygaeth, yn ogystal â chynhyrchu adroddiadau diagnostig awtomatig ac integreiddio â systemau fferylliaeth a labordy.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.