Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Yr Is-adran Gofal Sylfaenol

Mae’r Is-adran Gofal Sylfaenol yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae wedi’i threfnu’n ddau dîm; yr Hwb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol, a’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol. Mae gan yr Hwb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol ddau gylch gwaith cyffredinol o (1) Cefnogi ein partneriaid i gyflawni cynlluniau cenedlaethol ar gyfer trawsnewid gofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru, a (2) datblygu dull cydgysylltiedig o atal mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol yn canolbwyntio ar gefnogi ac arwain y gwaith o wella gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg yng Nghymru.

Services: Gwasanaethau Gweinyddol
Math: Y GIG
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Gofal Sylfaenol, Rhagnodi cymdeithasol, Gofal deintyddol, diabetes

Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru

Mae Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yn cael ei harwain gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru, a’i nod yw ymchwilio a gwerthuso rhaglenni rhagnodi cymdeithasol.

Services: Ymchwil, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Sefydliad Ymchwil, Prifysgol
Sector: Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol, Academia
Specialism: Rhagnodi Cymdeithasol

Zimmer Biomet

Cwmni dyfeisiau meddygol sy’n datblygu amrywiaeth o gynhyrchion cyhyrysgerbydol, fel mewnblaniadau a thechnolegau llawfeddygol, yw Zimmer Biomet. Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Zimmer Biomet ei fod yn cau ei safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Orthopedeg, Llawfeddygaeth