Wynne-Jones IP
Mae Wynne-Jones yn gwmni atwrnai patentau sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Dyfeisiau Meddygol, Technoleg Feddygol, Gwyddorau Bywyd a Chynhyrchion Fferyllol.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd, a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2025
Mae Wynne-Jones yn gwmni atwrnai patentau sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Dyfeisiau Meddygol, Technoleg Feddygol, Gwyddorau Bywyd a Chynhyrchion Fferyllol.
Y Brifysgol Agored yw’r darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru.
Mae CEMET (ym Mhrifysgol De Cymru) yn darparu mynediad at brosiectau ymchwil a datblygu 6-8 wythnos o hyd, wedi’u hariannu, i gwmnïau technoleg yng Nghymru sydd wedi’u lleoli yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Powys, Caerffili neu Fro Morgannwg, i ddatblygu cynnyrch neu wasanaethau mewn meysydd fel Dysgu Peirianyddol, Deallusrwydd Artiffisial, realiti rhithwir a Rhyngrwyd y Pethau.
Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd yn rhaglen waith ar gyfer Cymru gyfan sy’n dod â byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG at ei gilydd i hyrwyddo a hwyluso partneriaethau iechyd rhyngwladol.
Mae'r Gymdeithas MS yn ariannu a hyrwyddo
ymchwil i ddatblygu triniaethau a gwasanaethau newydd i bobl â MS ac i ddeall achosion y cyflwr. Rhoddir cymorth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan MS, gydag ymdrechion i godi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth a gwella gofal a chymorth i bawb sy'n byw gyda MS. Mae'r sefydliad yn gweithredu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Gymdeithas Strôc yn gweithredu ledled y DU, gan ddarparu gwasanaethau cymorth i bawb sydd wedi'u heffeithio gan strôc, gan gynnwys teuluoedd a gofalwyr. Mae'r elusen yn codi ymwybyddiaeth am strôc ac yn ymgyrchu dros well gwasanaethau brys, adsefydlu a chymorth. Mae’r sefydliad hefyd yn buddsoddi mewn ymchwil strôc i helpu i leihau nifer yr achosion o strôc, dod o hyd i’r triniaethau gorau a gofal hirdymor, a gwella ansawdd bywyd ar gyfer y rhai sydd wedi goroesi strôc.
Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH), a arweinir gan Brifysgol Abertawe ac a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn fenter arloesol sy'n uno iechyd, chwaraeon a thechnoleg. Mae'n cysylltu busnesau newydd, cwmnïau rhyngwladol, y byd academaidd, a'r GIG, gan feithrin arloesedd trwy gydweithredu. Mae'r rhwydwaith yn rhoi mynediad i aelodau at gyfleusterau ymchwil a datblygu blaengar, cymorth busnes, digwyddiadau, a chyfleoedd ymchwil. Gan ganolbwyntio ar hyrwyddo gofal iechyd, meddygaeth a thechnoleg chwaraeon, mae NNIISH yn creu cyfleoedd newydd i gwmnïau ac yn ysgogi newid ystyrlon mewn arloesedd chwaraeon ac iechyd. Mae aelodau'n elwa o ecosystem gydweithredol sydd wedi'i dylunio i lunio dyfodol y meysydd hyn.
Menter gymdeithasol nid-er-elw sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol i arloesi.
Nod Ymchwil Canser Cymru yw lleddfu salwch a hybu iechyd da drwy ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ganser a’i dechnegau trin ac atal posib, gan ddarparu a chefnogi cyfleusterau ar gyfer ymchwil canser o ansawdd uchel yng Nghymru.
Mae Ymchwil Canser y DU yn ymroddedig i achub bywydau drwy ymchwil. Eu cenhadaeth yw atal, rheoli a gwella canser drwy ein hymchwil arloesol, ac yn ystod y 40 mlynedd ddiwethaf, mae ein gwaith wedi helpu i ddyblu cyfraddau goroesi. Ond mae mwy o waith i'w wneud. CRUK yw'r unig elusen sy'n ymladd dros 200 math o ganser.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.